Mudiad iaith yn galw ar aelodau'r Senedd i ddiwygio Mesur y Cwricwlwm

28/01/2021

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Aelodau o’r Senedd i ddiwygio Mesur y Cwricwlwm er mwyn gweithredu un llwybr dysgu’r Gymraeg.

Bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn trafod gwelliannau i Fil y Cwricwlwm ddydd Gwener (28 Ionawr), gan gynnwys un gan yr Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian ar y cod ar gyfer gweithredu un continwwm dysgu'r Gymraeg. Byddai’r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod “sy’n nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer addysgu’r Gymraeg ar un continwwm”, ac yn golygu na fyddai “cwricwlwm [neu] addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol y Gymraeg oni bai ei fod yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth yn y Cod.”

 

Byddai’r cod hwn, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yn “rhoi arweiniad clir i benaethiaid ac athrawon” ac yn “gam pwysig ymlaen at y nod o addysg Gymraeg i bawb.” Mae Comisiynydd y Gymraeg a’r undeb athrawon UCAC hefyd wedi argymell cyflwyno’r cod. 

 

Dywedodd cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:  “Mae angen i aelodau’r Senedd basio’r gwelliant hwn i Fil y Cwricwlwm gan y byddai’n rhoi arweiniad clir i benaethiaid ac athrawon ar gyfer datblygu un rhaglen dysgu Cymraeg. Nid yw’r cwricwlwm mae'r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi yn sicrhau un llwybr dysgu Cymraeg, ond ymddengys yn hytrach fel ymgais i ail-frandio Cymraeg ail iaith. Byddai mabwysiadu’r gwelliant hwn yn gyfle i unioni hyn ac yn sicrhau bod holl blant Cymru’n gadael ysgol yn hyderus yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. "

 

Cyfle euraidd

 

“Dyw’r sefyllfa bresennol, sy’n amddifadu 80% o blant Cymru o’r Gymraeg, ddim yn foddhaol. Dyma gyfle euraidd i Kirsty Williams sicrhau ei gwaddol fel Gweinidog Addysg a rhoi'r iaith i genhedlaeth o blant Cymru. Rhan o’r ateb i godi safonau dysgu yn gyffredinol yw sicrhau bod pawb yn dod yn ddwyieithog, gan y byddai hyn yn cyfrannu at fedrau cyfathrebu, datrys problemau, sgiliau creadigol yn ogystal â sgiliau iaith - dim ond drwy gyflwyno addysg Gymraeg i bawb y gallwn wireddu hyn. Mae’n hanfodol felly fod y gwelliant hwn, fyddai’n cynrychioli cam pwysig ymlaen at y nod o addysg Gymraeg i bawb a miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn cael ei fabwysiadu.”