Mudiad iaith yn galw am weithredu i daclo'r argyfwng allfudo

Fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddwsin o argymhellion i gryfhau’r economi ym Mlaenau Ffestiniog dros y penwythnos mewn ymdrech i leihau’r allfudo o Gymru sy’n 'argyfwng i'r iaith’ yn ôl y mudiad iaith.

Yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55% o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Amcangyfrifir bod Cymru yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r her allfudo, mae Cymdeithas yr Iaith yn argymell pecyn o bolisïau economaidd, sef 12 cam tuag at ddatblygu iaith a gwaith ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys sefydlu Banciau Lleol gyda chymorth cynghorau a’u hasedau pensiwn Codi Treth ar dwristiaeth i gynorthwyo ariannu mynediad cyflym i'r We i bob ardal o’r wlad. Mae'r mudiad yn credu y dydli sefydlu Menter Iaith a Gwaith Digidol newydd er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar-lein a symud cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd.  Maent yn credu mewn sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol  gan fynnu bod pob bargen ddinesig ync lustnodi cyfran o’i gyllideb i brosiectau penodol a fydd yn normaleiddio ac yn cael eu cynnal yn uniaith Gymraeg. Maent yn argymell hefyd  i sefydlu Colegau Hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd a milfeddygon ym Mangor ac Aberystwyth.  

 

Wrth siarad cyn lansiad y ddogfen bolisi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw, dywedodd Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Mae lefelau allfudo o Gymru yn argyfwng i'r iaith a’r economi. Dyna un o'r prif heriau i'r Gymraeg o ran niferoedd y siaradwyr. Bydd yn anodd iawn cyrraedd targed y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg fel arall. Rydyn ni wedi clywed geiriau gwag gan Lywodraeth Cymru am y materion hyn dro ar ôl tro, ond does bron dim gweithredu wedi bod. Mae cymunedau ble mae’r Gymraeg yn brif cyfrwng cyfathrebu yn ysgyfaint i'r iaith, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Mae’n rhaid eu gwarchod a symud pob cymuned arall lan continwwm tuag at y ddelfryd honno. Allwn ni ddim fforddio colli’r cymunedau hollbwysig hyn. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi cyfres o bolisïau newydd heddiw sy’n cynnig ffordd ymlaen. 

 

Wrth sôn am y cynnig i gynghorau sefydlu rhwydwaith o fanciau lleol, ychwanegodd: “Wrth i ni drafod gyda’n haelodau ac arbenigwyr, mae mynediad at gyllid yn un peth pwysig sydd wedi ei godi. Yn yr Almaen, mae tua 70% o fancio yn cael ei wneud gan tua 1,700 o fanciau lleol cydweithredol a’r banciau cynilo Sparkassen, sy’n gweithredu er budd y cyhoedd, sydd o fantais sylweddol i’r "Mittelstand" – sef busnesau bach a chanolig. Mae Sparkassen yn dal tua thraean o asedau banciau’r wlad gyda thua 40% o holl arian cwsmeriaid. 

 

Annog buddsoddi’n lleol

 

“Rydyn ni'n credu y byddai sefydlu banciau lleol yng Nghymru yn rhoi hwb i’r economi leol drwy sicrhau bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi’n lleol. Yn ogystal, byddai’n gwella mynediad at gyllid i fusnesau a phrosiectau lleol. Mae cyfle gan gynghorau i arwain ar y gwaith hwn drwy ddefnyddio eu cronfeydd pensiwn, sy’n werth tua £15 biliwn, i gynorthwyo sefydlu banciau lleol, a fyddai’n llawer mwy gwydn a buddiol i’n heconomïau lleol. Dylai’r banciau lleol yma gael dyletswydd benodol i hybu gofodau a phrosiectau Cymraeg.”