Dyfodol i'r Iaith yn beirniadu Cartrefi Cymunedol Gwynedd

05/04/2019

Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i hysbyseb Cartrefi Cymunedol Gwynedd am Ddirprwy Brif Weithredwr sydd ddim yn cynnwys unrhyw ofyniad i allu’r Gymraeg.

Mae’r mudiad yn nodi mai’r unig gyfeiriad at yr iaith yn y fanyleb person yw’r angen am “ddirnadaeth o’r iaith Gymraeg a diwylliant Gogledd Cymru.”

 

Dywedodd Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad: “Mewn ardal ble mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg, a mwyafrif llethol staff Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei defnyddio fel cyfrwng gwaith, credwn fod y penderfyniad hwn nid yn unig yn un cwbl annerbyniol, ond yn un anymarferol yn ogystal.”

 

“Afraid dweud bod hwn yn gosod cynsail peryglus iawn. Yng nghyd-destun yr amcan i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, dylid anelu at Gymreigio’r gweithle a chefnogi’r Gymraeg ymysg y gweithlu. Nid oes hyd yn oed amod i ddysgu’r iaith ynghlwm â’r hysbyseb hwn.”

 

Ail-ystyried polisi recriwtio

 

“Byddwn yn galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i ail-ystyried eu proses recriwtio, ac ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y gweithle fel maes allweddol i hyrwyddo twf y Gymraeg.”

 

Gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd: “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod ein gweithle yn leoliad gwaith dwyieithog sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o safon i’n holl gwsmeriaid.

 

“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg i ddiwygio ein Cynllun Iaith er mwyn rhoi hyblygrwydd i gefnogi ein cynllun twf sydd ymateb i her y Llywodraeth o adeiladu cannoedd o dai cymdeithasol newydd ar draws y Gogledd a thu hwnt, er ymateb i’r galw dybryd am dai. Golyga hyn fod y cwmni yn ehangu tu hwnt i’r fro Gymraeg ac mae angen Cynllun iaith sydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng ystyriaethau hyfywedd busnes ac ystyriaethau ieithyddol. Rydym fel cwmni yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol ac felly mae angen yr hyblygrwydd hwn er mwyn ein galluogi ni i gynnal asesiad ieithyddol ar gyfer ein swyddi. Pwysleisiwn nad gwanio’r polisi iaith yw hyn, ond mater o roi hyblygrwydd ar gyfer sicrhau hyfywedd y busnes i’r dyfodol. Cadarnhawn y bydd pob swydd Cymraeg hanfodol o fewn y cwmni’n parhau felly i’r dyfodol.

 

 

“Rydym yn angerddol dros yr iaith ac wedi buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i annog a hyfforddi ein staff i ddatblygu eu sgiliau iaith ac mae’n braf gallu adrodd fod nifer o’r swyddogion hyn, nad oedd yn meddu’r iaith, bellach yn ddysgwyr ac wedi ymdrochi yn niwylliant Cymreig y busnes, ac yn parchu’r iaith. Rydym yn falch o fod yn bartner positif i helpu Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn falch o gael ein gweld fel arweinwyr yn y sector dai ar weithredu yn gyfan gwbl ddwyieithog.”