Manon Rhys yn cipio'r Goron yn Eisteddfod Meifod

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni oedd Manon Rhys o Gaerdydd. 

 

‘Breuddwyd’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, a’r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau, ac ymgeisiodd dau ar hugain o feirdd yn y gystadleuaeth. 

 

Y beirniaid oedd Cyril Jones, Nesta Wyn Jones a Gerwyn Wiliams, a dengys y beirniadaethau ei bod yn gystadleuaeth glos eleni.  Ond, roedd y tri yn gytun yn y pendraw mai gwaith Jac oedd flaenaf yn y gystadleuaeth eleni, ac wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Cyril Jones, “Casgliad sy’n anesmwytho’r darllenydd yw hwn, gan ei fod yn archwilio’r tir neb rhwng breuddwyd a hunllef. Mae hyd yn oed arddull y cerddi’n cyfleu hynny gan fod pump ohonynt wedi’u hatalnodi a’r naw arall yn ddiatalnod a’u cywair yn pendilio rhwng darnau mwy ffurfiol a thafodiaith de-orllewin Cymru.

 

Elfennau o fywyd

 

Mae’r cerddi yn cyfuno elfennau o fywyd, fel yr eglurodd Cyril Jones, “Dau brif gymeriad y casgliad yw’r fam a’i phlentyn a cheir yn y cerddi gymysgedd o elfennau megis colled a cholli pwyll, trais a marwolaeth, a’r rheini wedi’u cadwyno â theitlau sy’n ddywediadau diniwed y plentyn ond yn aml ag arwyddocâd sinistr iddynt; er enghraifft, ‘odi cysgu wedi bennu nawr’.

 

Yn ôl Cyril Jones, “Mae gafael y bardd hwn ar ei iaith – a’i dafodiaith – yn gwbl gadarn. Dyma ddwy enghraifft o’r gerdd, ‘wyt ti wedi gweld eira o’r blaen?’: ‘a choeden y Nadolig trist/ wrth y clawdd dan gladd gwyn/ fel breuddwyd heb ei thwtsh’ a’r llinellau a ganlyn sy’n ateb cwestiwn y teitl: ‘fe welais eira o’r blaen/ sawl haen a lluwch/ syfrdan eu disgleirdeb/ cyn salwyno’n sydyn/ mewn drycin ddu’.

 

Cwm Rhondda

 

Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae gwreiddiau Manon Rhys yn ardaloedd Aberaeron a Thregaron. Mae hi’n fam i Owain Rhys a Llio Mair Rhys, ac yn byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd ar hugain gyda Jim, ei gŵr.

 

Mae hi’n awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, gan gynnwys y nofel Neb ond Ni a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro 2011.  Cydolygodd y cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda Christine James am gyfnod o ddeng mlynedd a gwerthfawrogodd y cyfle i olygu, ymhlith cyfrolau eraill, y gyfrol Cerddi’r Cymoedd, ac i gydolygu, ynghyd â’r Athro M. Wynn Thomas, J. Kitchener Davies: detholiad o’i waith sef y casgliad cyflawn o weithiau ei thad. Bu’n mwynhau ennill ei bywoliaeth am flynyddoedd drwy sgriptio ar gyfer cyfresi teledu megis Almanac, Pobol y Cwm ac Y Palmant Aur.

 

Y Goron

 

Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a’r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre’r Aran, Llanuwchllyn.  Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, a gofynnwyd iddo gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.

 

O bobtu’r garreg, gwelir hwyliau’r Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith cyn i’r ymfudwyr lanio ar dir eu gwlad newydd.  

 

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru