Mae llyfryn Tafwyl nawr ar-lein! Cymerwch olwg
22/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Tafwyl 2013
Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrwyio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin.
Mi fydd prif ddigwyddiad Tafwyl, Ffair Tafwyl, yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar y 12fed o Orffennaf, ac wythnos Tafwyl yn rhedeg o’r 11eg-18fed o Orffennaf mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd.
Cymerwch olwg ar llyfryn Tafwyl 2014!
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net