Llyfr Cacen Sali Mali wedi ei ryddhau mewn fersiwn rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiadau Apple

23/10/2014

Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith

Llyfr Cacen Sali Mali

Un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd llenyddiaeth Cymru ar gyfer plant wedi ei ryddhau mewn fersiwn dwyieithog rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiadau Apple.

 

‘Cacen Sali Mali’ yw’r cyntaf sydd wedi ei gynhyrchu yn arbennig ar gyfer cyfres o e-lyfrau mewn partneriaeth rhwng Gwasg Gomer a thîm digidol Cwmni Da.

 

“Mae Sali Mali wedi bod yn rhan o blentyndod nifer o blant ar draws Cymru, ac rydym ni’n falch o sicrhau’r hawliau digidol ar gyfer un o frandiau mwyaf poblogaidd Cymru” meddai Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol Cwmni Da. “Rydym ni’n meddwl bydd plant yn caru gweld y straeon yn dod i fyw trwy ryngweithio, ac wedi cadw’n ffyddlon i ddyluniad syml y gwreiddiol. Rydym wedi cynhyrchu’r e-lyfr ar gyfer iOS, a nawr yn bwriadu datblygu’r gyfres ymhellach yn ogystal ag ehangu mewn i ardaloedd eraill digidol.”

 

“Dyma e-lyfr rhyngweithiol cyntaf Gwasg Gomer ac rydyn ni’n gyffrous iawn i weld un o eiconau llyfrau plant Cymru, Sali Mali, ar gael yn y fformat hwn. Drwy gyd-weithio hwylus  â Chwmni Da rhoddwyd gwedd newydd a bywiog i Gacen Sali Mali gyda’r elfen ryngweithiol yn cynnig oriau o ddifyrrwch. Croeso i’r oes ddigidol, Sali Mali!” meddai Meinir James, Pennaeth Gwerthiant a Marchnata yn Gwasg Gomer a oedd wedi cyffroi i weld lansiad yr e-lyfr.

 

Mae Cacen Sali Mali ar gael ar gyfer iPhone, iPad, iPad touch a Mac trwy ap Apple iBooks

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net