Lluniau eira led-led Cymru

01/03/2018

Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Credit: Gareth 'Gonk' Roberts

Wrth i’r anghenfil o’r dwyrain ffyrnigo, mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o luniau cofiadwy led-led Cymru o’r wlad dan drwch prydferth o eira.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn felltigedig o oer, gyda’r tymheredd yn aros o dan y pwynt rhewi yn ystod y dydd a hynny hyd yn oed ger y môr. Mae'r llun uchod yn dangos eira ar Ynys Lawd, ger Caergybi, diolch i Gareth 'Gonk' Roberts. 

Mae cannoedd o ysgolion wedi cau, gyda thywydd eithafol iawn ar y ffordd heddiw ac yfory i Gymru i gyd. Cadwch lygaid ar gyfrif trydar @metoffice, a pheidiwch mentro allan heb fod hi’n gwbl angenrheidiol. 

 

Dyma rai o luniau tlws o’r tywydd hyd yma: