Llongddrylliadau yn cyfrannu at ddyfodol egni adnewyddadwy

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject gyda Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

 

Mae'r sector  ynni adnewyddadwy morol yn datblygu technolegau i fanteisio ar donnau ac adnoddau llanw ardderchog Cymru er mwyn creu ynni cynaliadwy. Mae'r ymchwilwyr yn bwriadu cynnwys arolygon o longddrylliadau o amgylch arfordir Cymru fel modelau o'r hyn a allai ddigwydd i unrhyw strwythurau a osodir yn yr un rhan neu mewn rhannau tebyg o wely'r môr.

 

Bydd delweddau sonar o'r llongddrylliadau hanesyddol, a dynnir o long ymchwil y brifysgol, Prince Madog, yn dangos sut mae'r llanw a'r cerrynt yn  symud gwaddodion o amgylch y llongddrylliadau ar wely'r môr. 

 

Dywedodd Dr Michael Roberts, un o brif ymchwilwyr y project: "Mae'n hysbys bod strwythurau tanddwr megis llongddrylliadau a dyfeisiau MRE yn effeithio ar lif y dŵr o amgylch y strwythurau, yn dibynnu ar gynllun y strwythur, yn ogystal â chryfder a chyfeiriad llif y llanw a'r math o wely môr maent yn gorwedd arno. Ceir ffyrdd o fodelu effeithiau o'r fath ond fel yn achos pob techneg o'r fath, mae angen data arsylwadol i helpu i ddilysu a mireinio'r modelau hyn fel y gallant ddarparu gwybodaeth hanfodol i'r sector ynni adnewyddadwy morol ar raddfeydd manylach ac ar raddfa amser hwy. Y gobaith yw y bydd y data hefyd yn gwella ein dealltwriaeth o brosesau morol ar draws ystod o safleoedd ledled dyfroedd Cymru ac yn rhoi atebion i ddatblygwyr i rai cwestiynau sylfaenol ond pwysig iawn." 

 

Ychwanegodd: "Mae cydweithwyr hefyd yn edrych ar sut gall y strwythurau hyn weithredu'n effeithiol fel riffiau artiffisial sy'n effeithio ar bethau megis a ydynt yn denu nifer cynyddol o bysgod a sut mae gwahanol ddefnyddiau yn dylanwadu ar bio-faeddu.  Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn hefyd yn cefnogi'r sector o ran cynllunio seilwaith a datblygu systemau a strategaethau monitro effeithiol ac effeithlon i ddeall yn well y berthynas rhwng strwythurau bywyd a pheirianneg forol ar wely'r môr dros gyfnod o amser."    

 

Er budd ein treftadaeth

 

Bydd yr ymchwil hefyd o fudd i’n treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru ac yn gwella ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o hanes morwrol hynod gyfoethog Cymru sy'n gysylltiedig â rhyfeloedd mawr yr ugeinfed ganrif. 

 

Mae canlyniadau'r arolygon hyn eisoes yn darparu gwyddonwyr Bangor gyda delweddau o wely'r môr nas gwelwyd o'r blaen ar lefel digynsail o fanylder, megis yr ardal sy'n cynnwys llongddrylliad yr U-87 a gollwyd gyda phob un o'i 43 criw, ddiwrnod Nadolig 1917.  Cafodd y llong danfor Almaenig ei dyrnu gan long o'r lynges Brydeinig yn fuan ar ôl suddo llong cargo gerllaw.  Rhagwelir y bydd canfyddiadau'r gwaith yn cyfrannu at nodau ac amcanion project a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ‘Commemorating the forgotten U-boat war around the Welsh coast 1914-18: Exploration, Access and Outreach’ dan arweiniad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 

Dywedodd Deanna Groom, prif ymchwilydd y Comisiwn Brenhinol (Morwrol): "Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr arolygon mae Prifysgol Bangor yn eu cynnal. Maent yn caniatáu i ni - am y tro cyntaf mewn can mlynedd efallai - weld creiriau'r Rhyfel Mawr sydd yn y môr ger ein harfordir ein hunain.  Mae'r rhain yn gofebion tanddwr, ingol, sy'n ein hatgoffa o draul rhyfel ar fywyd."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru