Lansio'r Llwybrau Celtaidd yn yr Egin
Categori: Amgylchedd, Arian a Busnes, Hamdden, Newyddion

Cafodd prosiect Llwybrau Celtaidd sy'n bartneriaeth yn y de ddwyrain i ddenu twristiaeth ei lansio yr wythnos hon yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Roedd cynrychiolwyr busnesau a sefydliadau twristiaeth o bob rhan o Orllewin Cymru ymhlith y cyntaf i ddarganfod eu 'Llwybrau Celtaidd' yn ystod y digwyddiad lansio, dan arweiniad y Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae'r cysylltiadau rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yn ganrifoedd oed, o'r cysylltiadau rhwng ein seintiau hynafol i'r hanesion, mythau a chwedlau sydd gennym ni'n gyffredin," meddai. "Yn wir, daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer brand Llwybrau Celtaidd o ddyddiau ein cyndeidiau Celtaidd, yr oedd tair elfen yn greiddiol i'w byd sef y tir, y môr, a'r awyr, a dyna yw ethos yr holl ymgyrch."
Mae'r prosiect wedi derbyn £1.37 miliwn o arian Ewropeaidd yn sgil Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Bellach mae ymgyrch farchnata uchelgeisiol ar y gweill sy'n targedu ymwelwyr posibl o'r DU, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen ac UDA.
Bydd pecyn cymorth ar gael i fusnesau a chyrchfannau a fydd yn rhoi arweiniad a syniadau am sut y gallant greu eu profiadau Celtaidd eu hunain a chyfrannu at lwyddiant y prosiect. Hefyd bydd grŵp o fusnesau o Gymru yn mynd draw dros y don i Iwerddon cyn bo hir ar deithiau dysgu, er mwyn dysgu a rhannu arfer gorau gyda'u cymheiriaid Gwyddelig.
Casgliad o brofiadau twristiaeth
Casgliad yw o brofiadau twristiaeth â brand, sy'n annog teithwyr i ymweld ag Iwerddon a Chymru i ddarganfod yr ysbryd Celtaidd drwy awgrymu profiadau gwirioneddol Geltaidd yng Ngorllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.
Cafodd y prosiect ei lunio i hyrwyddo'r asedau naturiol, diwylliannol a threftadol sydd gan y siroedd hyn yn gyffredin, er mwyn cynyddu niferoedd yr ymwelwyr a manteisio i'r eithaf ar eu heconomïau twristiaeth.
Daw'r prosiect £1.7/€1.99 miliwn â chwe phartner o'r naill ochr a'r llall i Fôr Iwerddon at ei gilydd am y tro cyntaf – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Wicklow, Wexford, a Waterford.