Lansio pecyn cymorth i hybu'r Gymraeg yn y gymuned
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Newyddion

Bydd pecyn cymorth i hybu’r Gymraeg yn y gymuned yn cael ei lansio gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies fore Iau nesaf ym mhabell Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.
Mae’r pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Casglwyd yr enghreifftiau hyn fel rhan o broject ymchwil mewn wyth cymuned wahanol yng Nghymru o Wrecsam, Llanrwst a Porthmadog yn y gogledd i Aberystwyth yn y canolbarth ac Aberteifi, Rhydaman a Chaerffili yn y de.
Lluniwyd y pecyn gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru.
Mae’r pecyn yn cynnwys dyfyniadau gan unigolion a sefydliadau sy’n weithgar yng nghymunedau'r astudiaeth ac yn cynnwys amrywiaeth o fathau o weithgareddau. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys grwpiau i gefnogi rhieni a phlant ifanc, gweithgareddau cyffroes i bobl ifanc, ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden i bobl o oedrannau gwahanol. Bydd y pecyn yn cael ei osod fel e-lyfr ar wefan Mentrau Iaith Cymru ac ar gael i’r cyhoedd i’w lawr lwytho am ddim.
Chwilio am arfer da
Yn ôl Dr Rhian Hodges, “Diolch i gyllid gan yr ESRC fe gawsom gyfle i ailymweld â’r cymunedau gan adrodd yn ôl i aelodau’r cyhoedd ac ymarferwyr am ganlyniadau’r astudiaeth wreiddiol. Roedd hyn yn gyfle i holi unigolion o’r cymunedau hyn amddatrysiadau ac enghreifftiau o arfer da o ran hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cymunedau. ”
Yn ôl Dr Cynog Prys, “Nod y pecyn yw tynnu at ei gilydd enghreifftiau diddorol o arfer da a fodolai wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol. Y gobaith yw y bydd unigolion o gymunedau eraill yn gallu defnyddio’r enghreifftiau hyn fel ysbrydoliaeth wrth feddwl am ffurf i gynyddu’r defnydd o Gymraeg o fewn eu cymunedau.”
Cyllidwyd y project gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC y Brifysgol. Bydd y lansiad yn dechrau ym Mhabell Prifysgol Bangor am 10yb.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru