Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Invertigo, Saer Doliau

31/01/2013
Categori: Celfyddydau

Sion Alun Davies a Louise Best ar gyfer Invertigo Theatre Company mewn cydberthynas â Neil McPherson ar gyfer y Finborough Theatre yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn Lloegr:
 
SAER DOLIAU gan Gwenlyn Parry Cyfarwyddwyd gan Aled Pedrick.
 
“Pam na cha’ i lonydd gynnoch chi? Wnes i ddim byd i haeddu cael fy nhrin fel hyn.”
 
Bydd y perfformiad cyntaf erioed yn Lloegr o glasur Gwenlyn Parry, ‘Saer Doliau’ - wedi ei berfformio yn y Gymraeg - yn agor yn y Finborough Theatre yn Llundain am gyfnod cyfyngedig o naw perfformiad Nos Sul a Llun a Matinee dydd Mawrth o Ddydd Sul y 3ydd Chwefror 2013 (Noson y wasg: Dydd Llun, 4 Chwefror 20 ...

darllenwch mwy

Cyfle profiad gwaith i berson ifanc r...

22/01/2013
Categori: Hyfforddiant / Cyrsiau

Cyfle profiad gwaith i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed


Hysbyseb profiad gwaith

HYSBYSEB PROFIAD GWAITH

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am greu cyfle profiad gwaith i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed i ymuno â thîm safle'r digwyddiad am gyfnod o wyth wythnos dros yr ŵyl.
 
Ydych chi erioed wedi eisiau gwybod beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni? Ydych chi'n meddwl am fynd i Brifysgol neu Goleg i astudio Rheoli Digwyddiadau neu rywbeth tebyg? Neu ydych chi wedi newydd raddio ac yn chwilio am y cam cyntaf ar yr ysgol broffesiynol?
 
Mae tîm safle yr Urdd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol digwyddiadau sy'n gweithio ar draws y diwydiant ac ar draws y DU. Mae rheolwr y safle yn Gyfarwyddwr cwmni SCP Cyf.
 
Mae'r rô ...

darllenwch mwy

Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad...

22/01/2013
Categori: Addysg, Hyfforddiant / Cyrsiau

Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin


Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin

Dyma gyfle i chi ennill cymhwyster Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
 
Bydd pawb sy’n cael eu derbyn ar y cwrs yma yn cael grant hyfforddi tra’n dysgu.  Gwahoddir siaradwyr Cymraeg a dysgwyr da i ymgeisio am un o’r 200 o lefydd ar y cynllun hyfforddi yma a leolir mewn cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd ac ysgolion cynraddledled Cymru.
 
Mae’r cynllun hyfforddi cenedlaethol yma yn cael ei gynnal gan Mudiad Meithrin, trwy ei is-gwmni Cam wrth Gam, o 1 Ebrill 2013 hyd 31 Mawrth 2014.
 
Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch gyda Cam Wrth Gam ar y manylion cysylltu uchod.
&n ...

darllenwch mwy

Label Recordiau Sain ar werth

20/12/2012
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Label Recordiau Sain ar werth


Label Recordiau Sain ar werth

Mae label Recordiau Sain - a sefydlwyd yn 1969 - yn cael ei roi ar werth.

Dywedodd cyfarwyddwyr y cwmni fod yr amser i werthu wedi dod gan eu bod yn heneiddio.

Nid yw'r cwmni, sy'n cyflogi 24 o bobl - wedi cyhoeddi'r pris gwerthu, ond credir fod ôl-gatalog y cwmni yn werth swm sylweddol iawn.

Y nod yw ei werthu fel busnes hyfyw fel y gall y busnes barhau i fasnachu.

Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd cyn symud i Benygroes ac yna Llandwrog ger Caernarfon yn y 1970au.

Record gynta'r cwmni oedd un gan un o'r cyfarwyddwyr gwreiddiol, Huw Jones, sef 'Dŵr'.

Ers hynny maen nhw wedi recordio cannoedd o artistiaid o bob math o gerddoriaeth, gan gynnwys Bryn Terfel, Catatonia, Gerai ...

darllenwch mwy