Holl hynt a helynt y Sioe Fawr ar S4C

15/07/2016

Categori: Amaethyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Fe fydd S4C yn darlledu holl hynt a helynt y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni gan ddarlledu gydol y dydd o’r maes ar y teledu ac ar-lein.

"Mae'n fraint bod yn rhan o wasanaeth sy'n rhoi llwyfan rhyngwladol i ddigwyddiad mor bwysig yng Nghymru," meddai Ifan, sy'n byw gyda'i wraig Gwawr mewn tŷ ar fferm ddefaid a gwartheg bîff y teulu ym Mhontrhydygroes, Ceredigion.

 

Ychwanegodd Ifan Evans, "I ni, fel teulu, mynd i'r sioe oedd uchafbwynt y flwyddyn. Fyddwn i byth yn breuddwydio colli'r digwyddiad, roedd yr amrywiaeth o sioeau, cystadlaethau a stondinau yn golygu bod rhywbeth yno i bob un ohonom ni fechgyn," meddai Ifan, un o dri brawd. "Does gen i ddim amheuaeth mai hon yw'r sioe amaethyddol orau yn y byd. Mae amrywiaeth a safon y stoc a'r cynnyrch heb eu hail."

 

Mae'r tîm cyflwyno yn cynnwys y darlledwyr Nia Roberts, Dai Jones (cylch gwartheg), y bugail a'r dringwr Ioan Doyle (clybiau Ffermwyr Ifanc, adrannau moch a geifr, ardal goedwigaeth), Heledd Cynwal a David Oliver (prif gylch) ac Alun Elidyr (cystadlaethau cneifio). Un wyneb newydd yn y tîm eleni yw'r newyddiadurwr Catrin Haf Jones. Hi yw'r gohebydd yn y cystadlaethau defaid. Fel Ifan, mae Catrin wedi ei magu ar fferm yng Ngheredigion, a hynny, ymhellach i'r de, rhwng Aberaeron a Chei Newydd.

 

Gwreiddiau amaethyddol

 

"Bydd cyflwyno o'r sioe yn gyfle imi fynd yn ôl at fy ngwreiddiau amaethyddol, ond mae hefyd yn cynnig her newydd. Mae'n newid braf o gyfweld pobl ar gyfer straeon newyddion caled, ac yn gyfle i fod yn chwilfrydig a dysgu mwy am yr her o ddangos defaid. Efallai fy mod wedi fy magu ar fferm ddefaid, ond mae'r grefft o ddangos defaid yn sialens arbennig iawn," meddai Catrin, 27 oed, newyddiadurwr gyda'r gyfres materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar.

 

Ychwanegodd Catrin, "Mae'r sioe yn ddigwyddiad gwych, yn llawn egni, gobaith a balchder, ac mae'n wir yn rhoi cyfle i ddathlu'r cyfoeth o stoc a sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru o fewn y diwydiant."

 

Ymunwch â'r criw i fwynhau holl gyffro'r Sioe ar S4C wrth i ni ddathlu bywyd cefn gwlad a chynnyrch Cymru.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru