Holi 'Dolig gydag Huw Marshall
Categori: Arian a Busnes, Hamdden, Iaith, Newyddion

Huw Marshall yw sylfaenydd yr Awr Gymraeg sy'n hyrwyddo busnesau Cymraeg ar Trydar, ac mae Lleol.cymru yn ei holi am ei arferion dros y gwyliau.
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Lansio Awr.Cymru O'n i di bod yn awyddus ers sbel i neud cyfraniad positif ymarferol i'r Gymraeg yn y gofod digidol
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Brexit a Trump, nath o profi grym negyddol cyfryngau cymdeithasol.
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2016.
Blwyddyn o newid gall arwain at newidiadau positif.
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Adre yng nghwm Garw, Nadolig traddodiadol, byta gormod a diogi!
Eich anrheg gorau erioed?
Dal i ddisgwyl amdano gan Sion Corn!
Oes ganddoch draddodiad arbennig dros yr Wyl?
Mae Megan yr hynaf yn gael eu penblwydd diwedd Tachwedd, felly ar y penwythnos cyntaf ar ôl ei phenblwydd da ni'n mynd allan i brynu coeden ac addurno'r ty.
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Stwffin (fi sy'n gyfrifol am hwn) a diod, sheri (hic)
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Pob blwyddyn i fod yn fwy trefnus....
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Dwi wrthi'n datblygu cwpwl a brosiectau digidol enfawr newydd fydd yn cael dylanwad bositif ar y Gymraeg.