Holi 'Dolig gydag Chris Foodgasm Roberts
Categori: Amgylchedd, Bwyd, Hamdden, Newyddion

Mae Chris Roberts wedi cael blwyddyn ryfeddol eleni yn denu degau o filoedd o wylwyr ar y We wrth goginio danteithion ar danllwyth o dân. Mae Chris sy'n byw yng Nghaernarfon yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ac yn edrych 'mlaen i wireddu syniadau cyffrous ar gyfer 2018.
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Uchafbwynt o’r blwyddyn oedd Gŵyl Fwyd fi - CHRISFEST yn Caernarfon Awst dwytha. Celebration o cynnyrch lleol efo wyn mynydd Eryri di cwcio Asado style dros y tân. Methu disgwl tan CHRISFEST 2018! Llunia yn fama o ChrisFest flwyddyn yma.
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Dim isafbwynt yn 2017, blwyddyn llawn positivity.
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2017.
2017 di bod yn EPIC!
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Dwi’n gwithio bob dwrnod Dolig, ers 11 blwyddyn wan. Dwi’n syportio pobol efo anableddau dysgu sy’n byw yn y gymuned yn dre. Arol gorffan y shift fyddai’n dathlu efo teulu a ffrindia adra noson dolig.
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Hoff fwyd fi trwy’r blwyddyn di cinio dolig, twrci a beef di cwcio yn y smoker a llwyth o pigs in blankets! (Dwi efo video newydd allan pnawn ma ar tudalen Facebook Hansh yn dangos syt dwi’n cwcio Twrci yn y smoker)
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Dwi byth yn neud addunedau blwyddyn newydd!
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Ma 2018 am fod yn blwyddyn cyffrous iawn. Genai lot o petha yn y pipeline, dipyn o petha dwi methu sharad am, ond rili excited am Chrisfest 2018, neud mwy o videos i Facebook a launchio ‘Sexy Rub’ fi yn y shopau lleol. Watch this space!
Dilynwch fi - Chris ‘Foodgasm’ Roberts ar Facebook, @chrisfoodgasmroberts ar Instagram a @ChrisFOODGASM ar Twitter.