Haydn Holden yn ôl gyda sengl ddwbl newydd

13/05/2021

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

20 mlynedd wedi iddo ryddhau ei EP ddiwetha’ ar label Sain, mae'r artist sy'n wreiddiol o Drawsfynydd, Haydn Holden yn ôl efo’i sengl ddwbl newydd – ‘Hefo Mi 2021 / True’.

Daeth yr actor a’r canwr yn wyneb cyfarwydd fel aelod o’r band CIC ac yna fel artist unigol.  Yn ddiweddar bu’n actio’r cymeriad ‘Rhydian’ yn yr opera sebon Coronation Street.

 

Mae ‘Hefo Mi 2021’ yn ail gymysgiad gan Haydn ei hun o’r trac gwreiddiol a gyhoeddwyd ganddo yn 2001.  Mae’r ‘spin’ cyfredol sydd iddi yn cynnwys dylanwadau cerddorol yr 80au ac adleisiau o gerddoriaeth grwpiau fel S’Express a Utah Saints. 

 

Cydweithio

 

Mae’r ail drac, ‘True’, yn ffrwyth cydweithio rhwng Haydn a’r DJ Nathan X, sydd ar hyn o bryd yn y siartiau Prydeinig ac Americanaidd gyda’i ail gymysgiad o gan Alexander O’Neal, ‘Saturday Love’.

 

Bydd y ddau drac, ynghyd â fersiwn estynedig o ‘True’, ar gael ar yr holl blatfformau digidol ddydd Gwener yma.