Gwobrwyo nofel newydd Alun Cob yn Llyfr y Mis

29/06/2016

Categori: Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae nofel newydd gan yr awdur blaenllaw, Alun Cob am frwydr coedwig Mametz yn y Rhyfel Mawr wedi cael ei gwobrwyo yn Llyfr y Mis i fis Gorffennaf gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Dyma nofel bwerus a chignoeth sy’n dilyn hynt tri milwr – Huw, Cledwyn ac Ephraim – a’r llwybr troellog a’u cymerodd nhw o Gymru i ganol llanast maes y Gad.

 

Ym mis Gorffennaf 1916 lladdwyd neu anafwyd oddeutu pedair mil o filwyr gwirfoddol y 38th (Welsh) Division yn yr ymdrech lwyddiannus i gipio coedwig Mametz oddi wrth fyddin broffesiynol yr Almaen. Roedd Mametz yn rhan o gyflafan y Somme ac yn un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

 

Dywedodd yr awdur Alun Cob "Nofel am hogia a aeth i'r Rhyfel Mawr ydi hon a stori eu bywydau yn arwain tuag at y gyflafan ym Mametz. Mae hanes a chefndir yr hogia yn bwysig - nid llyfr am y rhyfel yn unig ydi o."

 

Mametz yw pumed nofel Alun Cob ac mae’n wahanol iawn i’w waith blaenorol. Yn ôl Elinor Wyn Reynolds, golygydd Gwasg Gomer “mae'n nofel amserol, ddirdynnol sy’n llawn dynoliaeth a chynnwrf. Mae’n yffarn o stori dda!”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru