Gwobrau Twristiaeth Cymru - Pwy sy'n haeddu ennill?

28/08/2014

Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Dyma eich cyfle chi i enwebu busnes ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. 

 

Mae cyfle ardderchog i fusnesau twristiaeth gael cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau wrth i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru gael eu lansio.

 

Mae’r cyfle i gynnig am y gwobrau yn dechrau ddydd Llun 8 Medi ac yn cau ddydd Gwener 3 Hydref 2014. Mae cyn enillwyr yn cynnwys busnesau fel Gwesty St Brides, Gwyl Fwyd Y Fenni, Dan yr Ogof a chwmni Cosy Under Canvas. 

 

Y categorïau eleni yw: 

  • y twristiaeth busnes gorau
  • y diwrnod allan gorau
  • y digwyddiad gorau
  • y lle gorau i fwyta
  • y lle gorau i aros
  • y croeso gorau i ymwelwyr
  • seren newydd y diwydiant (drwy enwebiad yn unig)
  • datblygu sgiliau twristiaeth

 

Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngwesty’r Vale, Hensol, Bro Morgannwg nos Fercher 25 Mawrth.

 

Am fwy o wybodaeth am y gwobrau ewch i wefan Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru

 

Ffynhonnell - Gwefan Busnes Cymru 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net