Gwasg Gomer yn lansio gwefan newydd - 50% o ostyngiad ar BOPETH ar ei gwefan
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Gwasg Gomer yn dathlu Diwrnod y Llyfr a lansio gwefan newydd gyda chynnig arbennig
I ddathlu Diwrnod y Llyfr ac i lansio ei gwefan newydd, mae Gwasg Gomer yn cynnig 50% o ostyngiad ar BOPETH ar ei gwefan am un diwrnod yn unig.
Fel rhan o ddathliadau 120 y wasg y llynedd, penderfynwyd rhoi gwefan newydd ar waith. Erbyn hyn, mae’r wefan newydd yn fyw ac yn cynnwys e-lyfrau, newyddion a digwyddiadau’r wasg a nifer o gynigion arbennig.
Bydd y 50% o ostyngiad ar holl lyfrau Gomer - y teitlau newydd yn ogystal â hen ffefrynnau a chlasuron - ar www.gomer.co.uk tan hanner nos ddydd Iau, 7 Mawrth 2013.