Gwasanaeth newydd i ddysgwyr yn dechrau ar S4C

Bydd gwasanaeth newydd ar gyfer dysgwyr yn dechrau ar S4C dddd Sul yma, sef S4C Dysgu Cymraeg, fydd yn cynnig darpariaeth Gymraeg i ddysgwyr ar bob lefel. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys awr o raglenni ar brynhawniau Sul a chynnwys digidol ar y gwefannau cymdeithasol.

Yn wasanaeth cyffrous newydd, bydd rhaglen newyddion ar gyfer dysgwyr, Yr Wythnos, ymlaen bob dydd Sul am 12.00, gydag Alexandra Humphreys yn edrych nôl dros rai o brif straeon a newyddion yr wythnos.

 

Yn dilyn y newyddion, bydd rhaglenni sydd ag iaith syml, addas ar gyfer dysgwr ymlaen ar y sianel, gan gychwyn ar 13 Ionawr gyda chyfres newydd Dan Do, ble bydd Aled Sam a Mandy Watkins yn teithio hyd a lled y wlad i ymweld â chartrefi mwyaf diddorol Cymru.

 

Ar ben hynny, bydd cynnwys digidol ar gael ar dudalen Facebook a Twitter S4C Dysgu Cymraeg, ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar bob lefel. Bydd eitemau fideo yn cael eu postio yn wythnosol ar y dudalen, gyda chynnwys yr eitemau yn amrywio o newyddion, drama, gomedi neu gynnwys ffeithiol.

 

Bydd o leiaf un fideo bob wythnos yn cael ei deilwra’n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad. Felly mae modd i ddysgwyr sy’n cymryd y cam cyntaf ar y daith i ddysgu Cymraeg gael budd o wasanaeth dysgwyr newydd S4C.

 

Ysgogi rhywun i ddysgu Cymraeg

 

Gall ysgogi rhywun i ddysgu Cymraeg fod mor syml â gyrru fideo o dudalen Facebook S4C Dysgu Cymraeg i ffrind. Hawdd! Eleni, newidiwch fywyd rhywun gyda’r Gymraeg, a helpwch nhw i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr cyn 2050.