Canlyniadau Chwilio yn categori Iaith

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 1317 cofnodion | Tudalen 123 o 132

Diwrnod Shwmae Sumae 2014, Rhowch gyn...

18/07/2014
Categori: Iaith, Newyddion

Dathlodd cannoedd o bobl Shwmae Sumae yn 2013, beth am ymuno yn yr hwyl eleni? Trefnwch  fore coffi, her, cystadleuaeth, addurnwch eich siop, ysgol a'ch cylch meithrin.
 
Dyma sut dathlwyd Diwrnod Shwmae Sumae gan rai yn 2013
 
Trefnodd Canolfan Dysgu Cymraeg y Canolbarth disgownt 10% am goffi ar gampws Prifysgol Aberystwyth a chodi arian at yr Ambiwlans Awyr, ynghyd â sesiynau Blasu Cymraeg ar gyfer staff y bwytai a Fflachmob!
 
Cymraeg i Oedolion Gwent: Diwrnod agored yn y Pwll Mawr, Blaenafon
 
Trefnodd Cymraeg I Oedolion y Gorllewin sesiynau blasu amser cinio gyda Academi Hywel Dda; hyrwyddodd Cymraeg I Oedolion Sir Gâr gwersi yn Llanelli a C ...

darllenwch mwy

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd y...

17/07/2014
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd yn angenrheidiol er mwyn cwrdd â heriau’r dyfodol


Huw Jones - S4C

Mae natur y gwasanaethau a gynigir gan S4C wedi newid i gyd-fynd ag amgylchiadau ariannol y sianel. Dyna un o gasgliadau Cadeirydd Awdurdod y sianel yn Adroddiad Blynyddol S4C 2013/14.
 
Yn ôl Huw Jones, mae asesiad o berfformiad S4C yn dangos bod y gwasanaeth wedi addasu'n sylweddol er mwyn ymdopi â'r lleihad yn y gyllideb. Yn bennaf, mae'r newid wedi dod ar ffurf datblygiadau sy'n creu rhagor o gyfleoedd i wylio'r cynnwys ar draws y DU; cost yr awr y cynnwys yn lleihad; ac adnoddau i alluogi i gynulleidfaoedd di-gymraeg i wylio.
 
Mae'r newyddion o ran cyrhaeddiad yn gymysg, gyda chyrhaeddiad wythnosol y sianel yn llai, yn bennaf wrth i allu'r sianel i gystadlu am ...

darllenwch mwy

Mae Tocynnau Sioe Nadolig Cyw 2014 ar...

17/07/2014
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Iaith

Eleni mae modd mynd a’r plantos i weld Sioe Nadolig Cyw gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ogystal a sioeau dydd i ysgolion cynradd a meithrin, ond mae’r tocynnau yn gwerthu yn gyflym felly cofia archebu dy rai di cyn ei bo hi’n rhy hwyr!
 
Yn y sioe eleni – Bydd y sioe yn llawn canu a dawnsio i’r teulu cyfan, gyda chyflwynwyr Cyw, y môr-leidr Ben Dant, Ta-ra-tan-toc ac Radley Miggins o Lan-ar-goll-en.
 
 
Gyda digon o ganu a dawnsio bydd Sioe Nadolig Cyw yn siŵr o gyffroi pawb cyn y diwrnod mawr!
 

 
Dyma fanylion y perfformiadau, prisiau, a gwybodaeth am sut i brynu tocynnau:
 
Dydd Merch ...

darllenwch mwy

Teyrngedau i Gerallt Lloyd Owen

16/07/2014
Categori: Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Fe fu farw Gerallt Lloyd Owen ddoe yn 69 oed. Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn salwch byr. Un o feirdd mwya’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.
 
Yn un o feirdd enwocaf Cymru roedd Gerallt Lloyd Owen yn un o’r cynganeddwyr gorau erioed, yn ysbrydoli'r genedl gyda’i gerddi gwladgarol.
 
Fe’i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd yn 1944 a gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Ugain Oed a’i Ganiadau yn ifanc iawn. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1983.
 
Ers y newyddion trist mae nifer o bobl wedi rhoi teyrnged i’r bardd. Darllenwch ymlaen i ddarllen rhai o’r teyrngedau ar ...

darllenwch mwy

S4C yn talu teyrnged i Gerallt Lloyd ...

16/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Llenyddiaeth

S4C yn talu teyrnged i Gerallt Lloyd Owen


Gerallt Lloyd Owen

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd nifer o raglenni arbennig yn cael eu hamserlennu dros y dyddiau nesaf er cof am Gerallt Lloyd Owen - un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, a fu farw ddoe.
 
Heddiw ar Prynhawn Da bydd y Prifardd Robat Powell yn cofio am Gerallt Lloyd Owen.
 
Mewn rhaglen arbennig o Heno (heddiw, 16 Gorffennaf) bydd; Ceri Wyn Jones, Eurig Salisbury, Dafydd Iwan, Mererid Hopwood a Tudur Dylan yn rhoi teyrngedau.
 
Nos Sadwrn, 19 Gorffennaf am 9.30 bydd y ffilm ddogfen Gerallt yn cael ei dangos eto, gyda chyfle arall i’w gwylio nos Lun (21 Gorffennaf), am 10.00pm gydag is-deitlau agored. Enillodd wobrau am ddogfen orau 2013 Bafta Cymru, ac yn y ...

darllenwch mwy

Gerallt Lloyd Owen wedi marw

15/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Gerallt Lloyd Owen wedi marw


Gerallt Lloyd Owen

Mae'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen wedi marw yn 69 oed.
 
Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty am 3.30pm yn dilyn salwch byr.
 
Roedd yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru am 32 mlynedd.
 
Fe'i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd, ym mis Tachwedd 1944 a'i addysgu yn Ysgol Y Sarnau; Ysgol Tytandomen, Y Bala a'r Coleg Normal, Bangor.
 
Bu'n athro yn Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Ysgol Glyndwr, Pen-y-Bont ar Ogwr ac Ysgol Gymraeg Y Betws cyn mynd ati i sefydlu Gwasg Gwynedd yn 1972.
 
Bu'n gyfrifol am ddylunio a chyhoeddi'r comics Cymraeg, Yr Hebog a Llinos yn ogystal â ...

darllenwch mwy

Cwmni Cymen o Gaernarfon yn camu i dd...

15/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae Cymen – cwmni cyfieithu o Gaernarfon – wedi cyhoeddi ei fod yn symud ei bencadlys i adeilad sydd newydd ei adnewyddu, sef Hen Orsaf Heddlu Caernarfon.
 
Wrth i’r galw am wasanaethau iaith Gymraeg gynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymen – un o asiantaethau cyfieithu iaith Gymraeg mwyaf Gogledd Cymru - wedi bod yn cynyddu ei staff a’i wasanaethau ac wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn symud i adeilad mwy a gwell.
 
Yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth iaith Gymraeg o gyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd i leoleiddio meddalwedd a gwefannau a gwasanaethau eraill, mae Cymen wedi tyfu’n rhy fawr i’w swyddfa bresennol yn Nhw ...

darllenwch mwy

Cwmni yn edrych am siaradwyr Cymraeg

14/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith

Mae cwmni newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i brofi ap y mae wedi ei ddatblygu. Mae Cwmni Digidol a sefydlwyd gan y cyn-weinidog Addysg Leighton Andrews a chyn Gyfarwyddwr Technegol Box UK, Stuart Arthur, wedi datblygu ap o’r enw Cwtsh (neu Cwtch yn Saesneg) y bwriedir ei gyhoeddi yn hwyrach eleni. Bydd yr ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn fersiynau iOS ac Android.
 
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn trafod lawnsio’r ap gydag S4C.
 
Dywed Leighton Andrew,’Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ap arloesol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rydym wedi buddsoddi yn breifat yn y datblygu a chynllunio er mwyn sicrhau profiad esmwyth ar gyfer y defnyddydd’.
  ...

darllenwch mwy

Cerddwn Ymlaen - 8 diwrnod, 200 milltir

14/07/2014
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Ar ddydd Sadwrn y 12fed o Orffennaf yn Ffair Tafwyl, Caerdydd fe wnaeth Rhys Meirion a criw o 15 o gerddwyr gorffen taith fythgofiadwy ar draws Cymru. Yn y trydedd flwyddyn mae Cerddwn Ymlaen yn codi arian gwerthfawr i’r Ambiwlans Awyr Cymru.
 
Eleni cychwynnodd y daith ym Mae Colwyn ar y 5ed o Orffennaf a gorffen 200 o filltiroedd yn hwyrach yng Nghaerdydd. Yn ogystal â 16 o gerddwyr craidd yn cynnwys, Tudur Owen, Sioned Terry, Gerallt Pennant, Lucie Jones, Iolo Williams a Robin Mcbryde fe wnaeth nifer o bobl arall ymuno ar daith bob diwrnod i gefnogi yr achos.
 
Yn sialens a hanner mae’r ymgyrch yn codi arian hanfodol i un o elusennau mwyaf amlwg Cymru.  ...

darllenwch mwy

Y Gwyll yn y Gymraeg yng Ngwlad Belg

14/07/2014
Categori: Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Y Gwyll yn y Gymraeg yng Ngwlad Belg


Y Gwyll/Hinterland

Gwylwyr yng Ngwlad Belg fydd y cyntaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig i weld cyfres dditectif fawr S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn yr iaith Gymraeg.
 
Ar nos Lun 14 Gorffennaf, bydd y bennod gyntaf yn cael ei dangos ar sianel Canvas, rhan o rwydwaith y darlledwr VRT, i ddechrau wythnos arbennig o ddramâu trosedd ar y sianel. Bydd y gyfres gyfan yn cael ei darlledu gan Canvas yn hwyrach yn y flwyddyn.
 
I nodi'r darllediad Cymraeg tramor cyntaf, mae noson première arbennig yn cael ei chynnal yng Nghartref Swyddogol Llysgennad y DU ym Mrwsel.
 
Mae'r première wedi ei threfnu gan y darlledwyr VRT yng Ngwlad Belg, mewn cydweithrediad ag S4C, Llywodraeth C ...

darllenwch mwy