Canlyniadau Chwilio yn categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Wedi darganfod 178 cofnodion | Tudalen 17 o 18
Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaetho...
07/07/2014
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion
Bydd meysydd parcio dros dro yr Eisteddfod yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli gyda system bws gwennol yn weithredol.
Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd yn yr ardal. Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim.
Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu ar bob adeg y mae'r Eisteddfod yn agored i’r cyhoedd ac yn eich cludo chi o'r meysydd parcio i Ganolfan Ymwelwyr yr Eisteddfod. Os gwelwch yn dda, cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan hon o'ch taith a allai fod hyd at hanner awr.
Bydd y bysiau yn dychwelyd yn rheolaidd i'r meysydd parcio drwy gydol y dydd ...
Mae llyfryn Tafwyl nawr ar-lein! Cyme...
22/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion
Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrwyio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin.
Mi fydd prif ddigwyddiad Tafwyl, Ffair Tafwyl, yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar y 12fed o Orffennaf, ac wythnos Tafwyl yn rhedeg o’r 11eg-18fed o Orffennaf mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd.
Cymerwch olwg ar llyfryn Tafwyl 2014!
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net
Ffilm hyrwyddo newydd Eisteddfod Gene...
08/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion
Mae 'na amser hwyr yn haf,
lle dderbynnir pawb y gwadd.
Y Cymry'r hen a’r ifanc, yn dathlu bod yn braf.
Mae 'na wythnos cyfa i ddod o Eisteddfod, yn yr Eisteddfod.
Mae’r amser wedi dod, i Eisteddfod
Eisteddfod, yn yr Eisteddfod ie!
Eisteddfod, yn yr Eisteddfod ie!
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net
Paratoi'r maes ar gyfer Eisteddfod yr...
01/05/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion
Mae gwaith paratoi'r safle ar gyfer eisteddfod yr urdd Meirionnydd wedi dechrau a'r dywarchen gyntaf wedi ei thorri ar stad y Rhiwlas, Y Bala.
Dyma fydd lleoliad y brifwyl ieuenctid rhwng Mai 26 a Mai 31 ac mae'r caeau yn y broses o gael eu trawsnewid gyda tracfyrddau, ffensys a swyddfeydd wrthi'n cael eu gosod.
Mi fydd yna ambell i newid ar y maes y tro yma gyda'r adeilad ar gyfer gweithgareddau gwyddonol a daearyddiaeth yn dyblu mewn maint. Bydd ardal ar gyfer creu apiau a chodio cyfrifiadurol a llwyfan yn cael ei osod ar gyfer cyflwyniadau.
Y tro yma hefyd mi allith pobl argraffu eu tocynnau eu hunain os ydyn nhw wedi talu amdanyn nhw ymlaen llaw. Bydd system ne ...
Ymchwil Abertawe yn dangos sut gall d...
26/04/2014
Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae diogod, mamaliaid arafa’r byd, sy’n byw yng nghoedwigoedd law America Ladin, yn treulio 90% o’u bywydau wyneb i waered, ond yn ôl ymchwil diweddar, nid yw hynny’n effeithio are eu gallu i anadlu. Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sy’n gweithio gyda Gwarchodfa Diogod Costa Rica wedi darganfod bod organau diogod wedi’u glynu, sy’n eu rhwystro rhag pwyso ar yr ysgyfaint.
Bydd yr ymchwil, wedi’i gyhoeddi gan y Gymdeithas Frenhinol,yn helpu gwyddonwyr i ddeall y creaduriaid yma’n well.
Mae diogod yn byw yng nghoedwigoedd law de a chanolbarth America. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn hongian ...
Gwyddonydd yn Ennill Gwobr er Cof am ...
07/02/2014
Categori: Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu gwobr newydd er cof am Dr Eilir Hedd Morgan, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor o dan nawdd y Coleg, a laddwyd mewn damwain y llynedd.
Bydd y wobr flynyddol yn cael ei chyflwyno i unigolyn o dan ddeugain mlwydd oed sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dr Huw Morgan, darlithydd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn derbyn y wobr eleni, a hynny yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yng Nghaerfyrddin nos Fawrth 18 Chwefror 2014.
Seryddiaeth a chysawd yr haul yw prif arbenigedd yr academydd o Lanbrynmair. Cafodd ei benodi i swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan ...
Cymorth Cyfrwng Cymraeg ym Maes Mathe...
29/10/2013
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Diolch i un o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd modd i fathemategwyr y dyfodol ddefnyddio adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.
Mae cyfieithiadau Dr Tudur Davies o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y MathCentre.
Prosiect aml-ddisgyblaethol yw’r MathCentre sy’n cynnig adnoddau rhad ac am ddim i fyfyrwyr er mwyn hwyluso dysgu Mathemateg mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.
Roedd Tudur o’r farn bod prinder adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg yn bodoli yn y maes felly roedd ...
App newydd ar gyfer Y Sioe Frenhinol
18/07/2013
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion
Map, digwyddiadau, cystadlaethau a chanlyniadau. Mae S4C wedi rhyddhau app newydd er mwyn sicrhau na fyddwch chi’n colli dim o gyffro'r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd eleni.
Mae App Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys map rhyngweithiol o faes y Sioe fydd yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i bob atyniad a stondin ar y maes. Mae hefyd yn cynnwys amserlen lawn o holl ddigwyddiadau a chystadlaethau'r diwrnod a bydd modd i chi lunio eich amserlen eich hun hefyd, i sicrhau nad ydych yn methu'r un digwyddiad.
Mae'r app dwyieithog hefyd yn cynnwys canlyniadau diweddaraf y cystadlaethau, gwybodaeth tywydd a thraffig ac adran gyfryngau fydd yn casglu lluniau, straeon ...
Ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 201...
30/05/2013
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael NAWR!
Mae'r ap yn cynnwys amserlen lawn o'r cystadlaethau, canlyniadau'r wythnos, gweithgareddau'r maes ac mae hefyd modd i chi greu eich amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
Cliciwch yma fynd yn syth i'r 'App Store' i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod,iphone neu ipad ac yma ar gyfer android.
Cefnogir yr ap gan S4C a datblygwyd gan gwmni Moilin Cyf.
Tocynnau Eisteddfod Genedlaethol Cymr...
24/04/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion
Tocynnau 2013
Tocynnau Maes - Cynigion arbennig!
Gostyngiadau sylweddol ar brisiau tocynnau maes dyddiol os ydych yn prynu cyn 30 Mehefin 2013.
Tocynnau Cyngherddau
Eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi newid y dyddiad pan fydd tocynnau ar gyfer y Brifwyl yn mynd ar werth, gan lansio’r ymgyrch docynnau ar 24 Ebrill - 100 diwrnod i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau.
Cliciwch yma i archebu
Manylion
Tro Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yw hi i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013, felly ymunwch â ni ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst eleni am wythnos i’w chof ...