Canlyniadau Chwilio yn categori Bwyd

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 292 cofnodion | Tudalen 28 o 30

Gwyliau bwyd yn helpu cynhyrchu £16m ...

07/10/2014
Categori: Bwyd, Newyddion

Gwyliau bwyd yn helpu cynhyrchu £16m ar gyfer sector bwyd a diod Cymru!


Gŵyl Bwyd Môr y Fenai




Cyhoeddwyd fod gwyliau bwyd Cymru yn rhoi hwb gwerth £16 miliwn i werthiannau cynhyrchwyr o Gymru, a’u bod yn cefnogi bron i 300 o swyddi.
 
Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi darganfod fod gwariant uniongyrchol bwydgarwyr fu mewn 30 o wyliau ledled Cymru gwerth £7.3 miliwn i’r economi.
 
Yn Gwledd Conwy Feast, yr ail ŵyl fwyaf yng Nghymru ar ôl Y Fenni, cafwyd y gwariant y pen cyfartalog uchaf, sef £28 y pen, ynghyd â £15 ychwanegol yn yr ardal leol. Y llynedd denodd fwy na 25,000 o bobl a chynhyrchodd £1.4 miliwn i’r economi leol, ffigwr sy’n cynnwys yr effaith hirdymor gan fod arddango ...

darllenwch mwy

Gŵyl Bwyd Môr Menai

29/08/2014
Categori: Bwyd, Newyddion

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei blwyddyn gyntaf, bydd Gŵyl Bwyd Môr Menai yn dychwelyd i Borthaethwy y penwythnos hwn (29-31 Awst)
 
Pwrpas yr Ŵyl ydi tynnu sylw at yr amrywiaeth gyfoethog o bysgod a bwyd môr sydd ar gael ar hyd glannau'r Fenai a dyfroedd gogledd Cymru yn ehangach.
 
Bydd yr Ŵyl yn cychwyn nos Wener, 29 Awst, gyda chyngerdd arbennig lle bydd y delynores Catrin Finch yn perfformio ochr yn ochr â Chris Jones, Casi Wyn a Chôr y Traeth.
 
Ddydd Sadwrn, 30 Awst, bydd diwrnod cyfan o weithgareddau am ddim i'r teulu oll - yn cynnwys pabell arddangos, marchnad cynnyrch lleol, gweithgareddau i blant, cyflwyniadau ar fywyd y môr, ac or ...

darllenwch mwy

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am ...

25/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Newyddion

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am laesu dwylo"


Y Sioe Fawr 2014

Roedd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn achlysur a hanner fel yr oedd pawb wedi’i ragweld.
 
Gyda mwy o bobl sy’n talu’n dod drwy’r giatiau, mwy o aelodau i’r gymdeithas, mwy o geir yn defnyddio’r meysydd parcio am ddim, mwy nag erioed o dda byw’n cystadlu, cynnydd yn nifer y stondinau masnach a rhaglen gystadlaethau hynod o lwyddiannus, mae sioe’r wythnos hon wedi rhagori ar bob disgwyl.
 
Yn siarad ar ddiwrnod olaf y sioe, dywedodd Mr David Lewis, Cadeirydd Cyngor CAFC nad oedd yn 40 mlynedd ei gysylltiad â’r gymdeithas erioed wedi gweld y fath gasgliad o dda byw eithriadol â’r rheini a oedd yn cael eu dangos ...

darllenwch mwy

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr

23/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr, medd ymchwiliad Sioe Frenhinol
 
Mae ymchwil a ddadorchuddwyd yn y Sioe Frenhinol eleni wedi datgelu fod labelu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gynnyrch yn medru profi i fod yn hw bi fusnes, a denu cynulleidfa ehangach. Wrth gyhoeddi’r newyddion, bu i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nodi y byddai’r ymchwil “galonogol” hyn yn cynnig mwy o hyder i gynhyrchwyr Cymreig. “Rydym wedi canfod fod defnyddio y Iaith Gymraeg o amgylch brand yn helpu greu hunaniaeth a phroffil unigryw. Wrth weld enw Cymraeg ar gynnyrch rydych yn gwybod ei fod yn dod o Gymru, gan gael ei gynhyrchu yn lleol, gan wasanaethu’r gymdeithas&rd ...

darllenwch mwy

Rhaid i’r RhDG gadw’r addewidion ar g...

08/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Bwyd, Newyddion

Rhaid i’r RhDG gadw’r addewidion ar gyllido ffermydd


Cadw’r addewidion ar gyllido ffermydd

Rhaid i’r Gweinidog gefnogi ei eiriau ag arian wedi cymryd cyllid oddi ar ffermwyr.
 
Cyn datganiad Llywodraeth Cymru ar Raglen Datblygu Gwledig newydd, mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd wedi galw ar i’r Llywodraeth gadw at eu gair a sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermwyr Cymru sydd mewn trafferthion.
 
Ym mis Rhagfyr, penderfynodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol drosglwyddo’r uchafswm o 15% o gyllid ymaith oddi wrth ffermwyr ac i Piler 2. Cyn hyn, dywedodd y Gweinidog y byddai’r arian yn cael ei gyfeirio’n ôl at ffermwyr trwy ddyraniadau Piler 2.
 
Mae AC Plaid Cymru wedi ...

darllenwch mwy

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaetho...

07/07/2014
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru


Sut i gyrraedd y Maes

Bydd meysydd parcio dros dro yr Eisteddfod yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli gyda system bws gwennol yn weithredol.
 
Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd yn yr ardal.  Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim.
 
Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu ar bob adeg y mae'r Eisteddfod yn agored i’r cyhoedd ac yn eich cludo chi o'r meysydd parcio i Ganolfan Ymwelwyr yr Eisteddfod. Os gwelwch yn dda, cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan hon o'ch taith a allai fod hyd at hanner awr.
 
Bydd y bysiau yn dychwelyd yn rheolaidd i'r meysydd parcio drwy gydol y dydd ...

darllenwch mwy

Mae llyfryn Tafwyl nawr ar-lein! Cyme...

22/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrwyio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin.
 
Mi fydd prif ddigwyddiad Tafwyl, Ffair Tafwyl, yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar y 12fed o Orffennaf, ac wythnos Tafwyl yn rhedeg o’r 11eg-18fed o Orffennaf mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd.
 
 
Cymerwch olwg ar llyfryn Tafwyl 2014!
 
 

 
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net

Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn enni...

09/05/2014
Categori: Bwyd, Newyddion

Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn ennill gwobr y Farchnad Fwyd Orau yn y Deyrnas Unedig


Jan Eldridge o Farchnad Ffermwyr Aberystwyth gyda barnwyr Richard Corrigan (dde) a Peter Gott

Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth wedi ennill gwobr y Farchnad Fwyd Orau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio BBC Radio 4 2014. Cyhoeddwyd y newyddion yn y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd ym Mryste nos Iau 1 Mai.
 
Meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol: “Mae hyn yn newyddion bendigedig. Roedd cyrraedd y rhestr fer yn dipyn o gamp ynddo’i hun, ond mae ennill y wobr yn arbennig. Rwy’n falch o weld Radio 4 yn tynnu sylw at y gwaith da sydd wedi’i wneud, ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn hybu’r farchnad i dyfu’n fwy fyth.”
 
Agorodd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ym mis Mai 20 ...

darllenwch mwy

Ffilm hyrwyddo newydd Eisteddfod Gene...

08/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Ffilm hyrwyddo newydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru


Cyflwyniad byr i un o wyliau mawr y byd - yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae 'na amser hwyr yn haf,
lle dderbynnir pawb y gwadd.
Y Cymry'r hen a’r ifanc, yn dathlu bod yn braf.
Mae 'na wythnos cyfa i ddod o Eisteddfod, yn yr Eisteddfod.
 
Mae’r amser wedi dod, i Eisteddfod
 
Eisteddfod, yn yr Eisteddfod ie!
 
Eisteddfod, yn yr Eisteddfod ie!

 
 
 
 


 
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net

Bryn Williams yn agor bwyty yn y gogledd

30/04/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Iaith, Newyddion

Bryn Williams yn agor bwyty yn y gogledd


Bryn Williams y cogydd, fydd yn datblygu bwyty newydd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Mae'r cogydd Bryn Williams, wedi ymrwymo i agor tŷ bwyta a chreu 14 o swyddi ym Mae Colwyn.
 
Yn gynharach arwyddodd prydles i fod yn rhan o ddatblygiad canolfan chwaraeon dŵr, Porth Eirias.
 
Cyhoeddodd Bryn Williams, sy'n berchen ar fwyty enwog Odette yn ardal Primrose Hill, Llundain , ei fwriad i agor bwyty ym Mhorth Eirias ym mis Medi 2013.
 
Roedd y cogydd sy'n dod yn wreiddiol o Ddinbych yn dweud ei fod eisiau dangos ei ddoniau coginio yng ngogledd Cymru.
 
Dros y misoedd diwethaf roedd rhai yn pryderu na fyddai'r datblygiad yn digwydd o gwbl.
 
Roedd disgwyl i'r bwyty agor ym mis Tachwedd llynedd.
 
Ymroddiad
 
Ond dywedodd llefarydd ar ...

darllenwch mwy