Glain Rhys yn rhyddhau sengl newydd

28/01/2021

Categori: Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Fe gyhoeddodd label recordiau I KA CHING fod y gantores a'r artist o Benllyn, Glain Rhys yn rhyddhau sengl newydd ‘Plu’r Gweunydd’ ar 5ed of Chwefror.

Wedi dwy flynedd o fethu’n lân a ‘sgwennu ar ôl rhyddhau ei halbwm ‘Atgof Prin’ yn 2018 (Sain) mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd a’r addewid o albwm erbyn yr haf.

 

Roedd Glain yng nghanol rhediad o’r sioe ‘Phantom of the Opera’ yng Ngroeg gyda chast o’r West End pan alwyd y Cyfnod Clô cyntaf. Er gwaetha’r siom o derfynu’r sioe yn fuan, cynigodd hyn gyfnod heb bwysau i Glain greu o’r newydd.  Mae ‘Plu’r Gweunydd’ wedi ei hysbrydoli gan yr ardal o gwmpas magwrfa Glain ym Mhenllyn. Blodyn ydi plu’r gweunydd sydd ond yn tyfu mewn mannau garw, ond mae’n flodyn hardd er gwaethaf yr amgylchiadau. Mae’r gân yn trafod y cysur o ddod adre a gweld fod pethau yn dal i fod yr un fath, ac yr un mor wydn yn y bôn â’r blodyn bach gwyn.

 

Dylanwadau

 

Mae dylanwadu newydd Glain yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.  
Bydd fideo cerddoriaeth yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r sengl ar wefan Y Selar. Crëwyd y fideo gan Amcan, a thynnwyd llun y sengl gan Kristina Banholzer.