Gemau'r Gymanwlad - Cymru yn yr 8fed safle.

Gyda Gemau’r Gymanwlad yn y 5ed diwrnod mae Tîm Cymru wedi cael sawl llwyddiant dros y penwythnos ac yn eistedd yn yr 8fed safle yn y tabl medalau. Mae’r tîm wedi ennill 18 medal hyd yn hyn yn cynnwys 2 Aur, 8 Arian a 8 Efydd.
Y gymnastwraig rhythmig Frankie Jones enillodd y fedal aur cyntaf wedi iddi ennill tair arian ar yr un diwrnod. Fe ddaeth yr ail fedal aur trwy Natalie Powell yn y categori dan 78kg yn y Judo. Daeth Powell i’r gemau fel un o’r ffefrynnau a fe ddaeth i’r brig.
Dros y diwrnodau nesaf byddwn yn gweld Aled Davies yn ceisio am fedal yn y discws a Jazz Carlin yn nofio yn y 800m dull rhydd. Pob lwc i bawb sydd yn cystadlu dros y diwrnodau nesaf.
Darllenwch ymlaen i weld rhai o’r negeseuon a chyfarchion.