Gatland yn enwi'i dîm i wynebu Awstralia

04/11/2014

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Mewnwr y Gweilch, Rhys Webb, sy'n llenwi'r crys rhif 9

Mae Warren Gatland newydd gyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Un dewis dadleuol efallai yw Rhys Webb fel mewnwr yn lle Mike Phillips.

Oherwydd anafiadau fe fydd George North yn symud i'r canol, gyda Liam Williams yn cymryd ei le ar yr asgell.

Does dim lle i Gethin Jenkins gan mai Paul James a Samson Lee yw'r ddau brop, ac mae Jake Ball wedi cael ei dewis yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, y triawd llwyddiannus o Warburton, Lydiate a Faletau sydd wedi cael yr alwad.

Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd Warren Gatland:

"Mae anafiadau yng nghanol cae yn golygu y cawn ni weld Jamie a George gyda'i gilydd eto, ac roedden ni'n hapus gyda'r ddau yno yn gynharach eleni.

"Mae partneriaeth Rhys (Webb) a Dan (Biggar) yn yr haneri i'r Gweilch wedi bod yn dda ac fe fydd yn braf gweld y ddau gyda'i gilydd ar y llwyfan yma.

"Mae Paul James a Jake Ball wedi fy mhlesio felly maen nhw'n cael yr alwad.

"Mae'r gemau diweddar yn erbyn Awstralia wedi bod yn dynn iawn ac rydym yn disgwyl yr un peth y penwythnos yma...fe fydd hi'n frwydr anferth ond mae'n her yr ydym yn edrych ymlaen ati."

Cymru v. Awstralia; Stadiwm y Mileniwm, dydd Sadwrn 8 Tachwedd am 14:30:-

Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Heb glwb), Sam Warburton (Capten - cytundeb deuol), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (London Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision).

Ffynnonell: Gwefan BBC Cymru Fyw

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net