Galw i wrthod cynnig i gau dwy ysgol yn Sir Ddinbych

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg Sir Ddinbych wedi galw ar gabinet Cyngor Sir Ddinbych i wrthod cefnogi cynnig i gau ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd a sefydlu ysgol ardal dwyieithog newydd.
Daw hyn wrth i aelodau’r cabinet gwrdd yfory i drafod adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglyn â dyfodol y ddwy ysgol.
Mae'r mudiad dros addysg Gymraeg eisoes wedi dadlau bod angen sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal. Dwyshawyd y pwysau ar y cyngor yr wythnos diwethaf, yn dilyn llythyr gan yr actor adnabyddus Rhys Ifans sy’n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd at y wasg yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i beidio diraddio addysg Gymraeg.
Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd cangen y mudiad yn Sir Ddinbych, “Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ysgolion cyfrwng Cymraeg wrth greu gwlad ddwyieithog. Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r unig fodel o ysgol yng Nghymru sy’n gyson yn cyflwyno sgiliau ieithyddol uchel mewn dwy iaith i’w holl ddisgyblion. Yn anffodus nid yw’r cynnig o dan sylw’n debygol o gyflawni’r nod hwn."
Dim cyfiawnhad
Nid oes cyfiawnhad dros sefydlu ysgol ddwyieithog, yn ol Elfed Williams, “Gyda 100% o ddisgyblion Ysgol Pentrecelyn a 70% o ddisgyblion Ysgol Llanfair yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, mae’r achos dros ysgol ardal Categori 1 yn gadarn iawn, nid oes cyfiawnhad dros sefydlu ysgol ddwyieithog gyda dwy ffrwd. Yn unol ag awydd y sir i gryfhau dwyieithrwydd, trwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n amlwg mai ysgol Gymraeg fyddai’r model a fydd yn cyfrannu sgiliau llawn mewn dwy iaith i bob disgybl."
Mae’n teimlo fod y cynnig hwn yn mynd groes i dystiolaeth arbenigwyr ieithyddol, meddai, “Mae’r cynnig gerbron nid yn unig yn gwrthdaro’n erbyn safbwynt rhieni ac ymgyrchwyr ond hefyd yn milwrio’n erbyn rhesymeg, tystiolaeth, argymhellion arbenigwyr cynllunio ieithyddol a pholisi cenedlaethol y Llywodraeth. ”
Cyfrifoldeb
Ychwanegodd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu Rhieni Dros Addysg Gymraeg, “Mae cyfrifoldeb aruthrol yn gorwedd ar ysgwyddau aelodau cabinet Cyngor Sir Ddinbych, o ran addysg y plant sy'n byw yn Pentrecelyn a Llanfairac o ran dyfodol yr iaith Gymraeg yn y sir gyfan. Yng ngwyneb y gostyngiad a welwyd yn nifer siaradwyr Cymraeg y Sir yn ôl Cyfrifiad 2011, mae arwyddocâd y gyfundrefn addysg o safbwynt meithrin sgiliau ieithyddol plant oed-ysgol yn bwysicach nag erioed.Sefydlu ysgol ardal Gymraeg Categori 1 yw’r unig ddatrysiad all sicrhau chwarae teg a chydraddoldeb i’r mwyafrif."