Galw ar siaradwyr Cymraeg i roi tic ymhob bocs Cymraeg yn y Cyfrifiad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi annog siaradwyr Cymraeg i nodi eu bod yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg wrth ateb pob cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â’r iaith.

Mae’r Cyfrifiad, fydd yn digwydd ddydd Sul yma (21 Mawrth), yn holi a yw’r ymatebwyr yn gallu “siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu Cymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar.” Mae Cymdeithas yr Iaith y galw ar siaradwyr Cymraeg — gan gynnwys y sawl sy’n meddwl nad yw eu Cymraeg yn ‘berffaith’ — i dicio’r opsiwn “Gallaf” wrth ymateb i’r holl gwestiynau hyn.

 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:“Rydyn ni’n annog siaradwyr Cymraeg i nodi eu bod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith wrth ymateb i’r holl gwestiynau sy’n cael eu holi ynghylch eu gallu iaith — ac mae hyn yn cynnwys pobl sy’n teimlo nad yw eu Cymraeg yn ‘berffaith’.

 

“Mae anghysondeb yn y ffaith mai dim ond un cwestiwn sy’n ymwneud â gallu rhywun i gyfathrebu yn Saesneg, tra bo cwestiynau ar wahân ynghylch gallu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg. Drwy greu’r categorïau diangen a mympwyol yma ar gyfer y Gymraeg, a dim ond y Gymraeg, fe bortreadir yr iaith fel iaith sy’n anarferol o anodd, ac mae hyn yn rhan o batrwm sy’n creu ansicrwydd ymhlith siaradwyr Cymraeg ynghylch eu gallu yn y Gymraeg. Mae tueddiad wedi’r cwbl i siaradwyr Cymraeg danbrisio ein gallu i gyfathrebu, yn enwedig yn ysgrifenedig, yn y Gymraeg — mae’n debygol y bydd geiriad anghyson cwestiynau’r Cyfrifiad yn gwaethygu’r tueddiad yma. 

 

Sylfaenol

 

“Mae’r hawl i wasanaethau Cymraeg ac i fyw drwy gyfrwng yr iaith yn rhywbeth cwbl sylfaenol rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu drostyn nhw ers degawdau; ddylen ni ddim caniatáu i eiriad blêr y Cyfrifiad arwain at baentio darlun anghywir neu anghyflawn o’r iaith, gan fod perygl y byddai hyn yn cael ei ddefnyddio gan wleidyddion i ymosod ar yr hawl sylfaenol yma i fyw yn Gymraeg.”