Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i daclo'r argyfwng tai

10/06/2021

Categori: Amgylchedd, Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Bydd adroddiad fydd gerbron Cabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fabwysiadu a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol o adroddiad ar ail gartrefi ar fyrder.

Cafodd yr adroddiad gan Dr Seimon Brooks, “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. 

 
Bwriad y Cyngor, wedi cadarnhad y Cabinet, fydd ymateb yn ffurfiol i adroddiad Dr Simon Brooks a gomisiynwyd gan y llywodraeth.
 
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Gyda 11% o stoc dai y sir yn ail gartrefi, y ganran uchaf yng Nghymru, mae nifer sylweddol o’n  trigolion yn wynebu sefyllfa lle na allant fforddio prynu tŷ o fewn eu cymuned leol.
 
“Credwn fod hyn yn anghyfiawn. Dymuniad clir a chadarn Cyngor Gwynedd yw sicrhau fod pob mesur posib yn cael ei ddefnyddio i geisio ymateb i’r argyfwng tai sy’n cael ei wynebu gan drigolion y sir yn eu cymunedau heddiw.
 
“Mae’n gwbl amlwg fod y cynnydd mewn niferoedd ail gartrefi yn ein cymunedau yn cyfrannu’n sylweddol tuag at wthio prisiau tai tu hwnt i gyrraedd trigolion lleol ac mae’n flaenoriaeth gennym i wneud popeth sydd o fewn ein grym i ymateb i’r sefyllfa yma.
 
“Mae un o argymhellion yr adroddiad nad ydym yn ei gefnogi fel y mae, ac yn ein hymateb ffurfiol byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru addasu’r argymhelliad i ‘ymgynghori ar y posibilrwydd o eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad trethi busnesau bach’ a’i ddiwygio fel bod ail gartrefi yn cael eu trethu fel ‘tŷ’,  waeth beth yw’r defnydd a wneir ohono.
 
“Ni fyddai’r hyn sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn atal ail gartrefi rhag ‘trosi’, felly byddwn yn parhau i fod mewn sefyllfa ble mae rhai ail gartrefi yn talu llai o drethi a ddim yn talu’r premiwm treth Cyngor o gwbl, sydd yn cael ei ail-fuddsoddi gennym mewn materion tai lleol.
 
“Credwn fod hyn yn amddifadu pobl Gwynedd ac rydym yn teimlo’n gryf bod angen atal ail gartrefi rhag trosi i’r system ardrethi annomestig.”
 
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi ac arwain ar yr her o geisio rheoli niferoedd ail gartrefi. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd gwaith ymchwil manwl i’r sefyllfa gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd a gwnaed argymhellion polisi clir a fyddai’n mynd i’r afael â’r cynnydd yn y niferoedd o ail gartrefi. Mae pedwar allan o’r chwe argymhelliad yma wedi eu cynnwys yn argymhellion Dr Simon Brooks.
 
Ychwanegodd Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Bu i’r Cabinet drafod y gwaith ymchwil gynhwysfawr yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2020, a chytunwyd ar dri gweithred oedd angen blaenoriaeth a gweithredu arnynt ar fyrder, a’r rheini tu hwnt i’n grymoedd ni fel Cyngor. Ers hynny, rydym wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am y newid a braf yw gweld ein papur ymchwil yn cael ei gyfeirio ato yn gyson yn adroddiad Dr Brooks.”
 
Y tri gofyniad hynny oedd:
1.    Newid Adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dy annedd yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd at bwrpas trethiant, ac felly yn talu Treth Cyngor ac unrhyw bremiwm fel bo’n briodol.
2.    Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr.
3.    Cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb ar yr Awdurdod Lleol ei weithredu.

 

Cynyddu cyfleoedd i bobl leol


 
Mae’r Cyngor hefyd wedi gweithredu yn ddiweddar er mwyn cynyddu cyfleoedd i bobl leol fyw yn eu cymunedau drwy fabwysiadu polisi gosod lleol newydd ar gyfer tai cymdeithasol a chynyddu’r premiwm treth cyngor i’r uchafswm posib o 100% ar ail gartrefi. Mae’r Cyngor yn defnyddio’r cyfan o’r premiwm hwn (ynghyd a £15 miliwn o gyllid y Cyngor ei hun a benthyca £15 miliwn pellach) er mwyn cyllido rhaglen o brosiectau er mwyn  sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymuned leol.
 
Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Credwn ein bod bellach wedi cyflawni popeth sydd o fewn ein grym presennol fel Awdurdod Lleol, ond mae’n amlwg y bydd angen gweithredu tu hwnt i’r grym hwn os am lwyddo i ymateb yn llawn i’r bygythiad i allu’n trigolion lleol i fyw yn eu cymunedau.
 
“Mae gweithredu buan ar yr argymhellion a amlygir yn yr adroddiad Llywodraeth Cymru “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” yn gwbl hanfodol ac rydym fel Cyngor yn gofyn felly i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu ar fyrder gyda’r addasiadau y cynigir i argymhelliad 7.”
 
Yn ôl ymchwil “Rheoli’r Defnydd o dai fel cartrefi gwyliau” y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Mon a Gwynedd mae bron i 60% o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn y sir; Gwynedd sydd a’r ganran uchaf o dai gwyliau yng Nghymru ac  mae 6,849 neu 11% o stoc tai Gwynedd yn dai gwyliau neu’n ail gartrefi o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.56%.

 

Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin.