Galw ar Gyngor Wrecsam i ymddiheuro

06/11/2015

Categori: Iaith, Newyddion

Mae Cyngor Wrecsam yn wynebu galwadau gan ymgyrchwyr iaith i ymddiheuro wedi honiadau eu bod wedi gor-ddweud costau gweithredu dyletswyddau iaith newydd.   

 

Ym mis Chwefror 2015, ymatebodd y Cyngor i holiadur Llywodraeth Cymru gan ddweud y byddai cost gweithredu'r Safonau oddeutu £700,000. Ynghlwm â'r ffigwr hwnnw roedd cost o £96,000 am feddalwedd Cymraeg, ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi darganfod y byddai gwir gost y meddalwedd yn llai na £2,000.  Mae'r mudiad yn honni bod y gwall yn codi cwestiwn am yr amcangyfrif yn gyffredinol, yn enwedig gan fod cynghorau eraill yn dweud na fyddai dim cost o weithredu'r Safonau.  

 

Mewn llythyr at y Cynghorydd Hugh Jones ar Gyngor Sir Wrecsam, meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Nid yw amcangyfrif gwallus yn rheswm teilwng dros beidio â chydymffurfio gyda'r Safonau arfaethedig y mae disgwyl i'r Cyngor eu gweithredu dros y misoedd nesaf. Mae gwall o'r maint yma yn codi cwestiynau ynghylch holl honiadau'r Cyngor am y Safonau.... Hoffem bwysleisio ei bod hi'n gwbl hanfodol bod modd i weithwyr deimlo'n hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg pan fynnent yn y gweithle...Mynnwn eich bod yn ymddiheuro am y ffigyrau gwallus a gyhoeddwyd gennych, a'ch bod yn cynnal ymchwiliad i mewn i sut gwnaed y fath gamgymeriad. Mewn proses gyfreithiol mor bwysig â hon, credwn fod y camgymeriad yn amlygu camweinyddu ar eich rhan fel cyngor, ac, yn ddibynnol ar eich ateb, byddwn ni'n ystyried mynd â'n cwyn ymhellach."  

 

Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae ymddygiad cyngor Wrecsam yn warthus. Mae'n gwbl glir eu bod nhw'n ceisio codi bwganod er mwyn tanseilio hawliau pobl i'r Gymraeg. Er bod ein haelodau'n lleol wedi herio eu ffigyrau mewn cyfarfod gyda nhw, mae'n debyg bod y Cyngor yn mynd i ddefnyddio arian trethdalwyr i baratoi her mewn ymdrech i wanhau hawliau iaith pobl Wrecsam. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n hapus i wario eu hadnoddau ar atal pobl rhag defnyddio'r iaith, ond ddim i wella eu gwasanaethau Cymraeg." 

 

Yn ôl adroddiad yn y wasg, mae rhai cynghorau yn ystyried herio'r dyletswyddau iaith newydd. O dan Fesur y Gymraeg, mae'r cynghorau yn gallu herio'r gofynion ar y sail nad ydyn nhw'n rhesymol a chymesur, ond yn ystod achos gerbron y Tribiwnlys mae modd i drydydd parti, fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gymryd rhan. Mae'r mudiad yn dweud y bydden nhw'n dadlau nad yw'n rhesymol i bobl a gweithwyr gael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg, ac y gallai henoed a phlant fod ymysg y rhai fyddai'n dioddef. 

 

Amddifadu

 

Ychwanegodd Mr Bevan: "Mae'n debyg bod nifer o gynghorau eisiau gwanhau'r Safonau: byddai hynny'n golygu y byddai rhai o'n pobl fwyaf bregus, fel plant bach a dioddefwyr dementia, yn cael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan maen nhw eu hangen fwyaf. Dyw hyn ddim yn fater bach. Rhan o bwrpas y Safonau yw cyflawni'r hyn mae cynghorau wedi bod yn anelu at ei gyflawni ers tua ugain mlynedd. Yn wir, mewn sawl maes, prin fod y Safonau'n gofyn i'r awdurdodau wneud llawer mwy na'u cynlluniau iaith. A dweud y gwir, mae 'na beryg na fydd camu 'mlaen a datblygu gwasanaethau Cymraeg cyflawn fel mae hi. 

 

"Mae'n bosib i drydydd parti ymyrryd mewn unrhyw achosion gerbron Tribiwnlys y Gymraeg, ac yn sicr byddwn ni'n ystyried hyn gan fod angen llais sy'n sefyll lan dros hawliau cryfach i bobl fyw pob rhan o'u bywydau yn Gymraeg." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru