Galw am strategaeth iaith sy’n ymateb i'r unfed ganrif ar hugain

18/05/2017

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae prosiect ymchwil yn galw am strategaeth newydd sy’n ymateb i amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain er mwyn adfywio’r iaith Gymraeg.

Mae prosiect ymchwil sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn holi a oes angen ail-ystyried tybiaethau traddodiadol ynglŷn â sut i hybu adfywiad ieithoedd lleiafrifol.

 

Nod y prosiect yw dwyn ynghyd grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr ym maes polisi iaith, ynghyd â nifer o ymarferwyr polisi amlwg, er mwyn ystyried yn fanwl beth yw oblygiadau ystod o newidiadau cymdeithasol cyfoes i’r ddealltwriaeth o sut ddylid llunio ymdrechion adfywio iaith sy’n addas ar gyfer amgylchiadau bywyd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

 

Mae’r gwaith yn dechrau wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i weithredu eu strategaeth iaith newydd sydd â’r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

 

Dywedodd un o gydlynwyr y prosiect, Dr Huw Lewis, Darlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Caiff y cyfnod sy’n pontio diwedd yr ugeinfed ganrif a blynyddoedd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain ei ystyried fel cyfnod o drawsnewid cymdeithasol pellgyrhaeddol.

“Erbyn hyn mae cymdeithasau yn fwyfwy unigolyddol, amrywiol a symudol; mae eu heconomïau yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig; ac mae eu strwythurau llywodraethol yn fwyfwy cymhleth, gan gwmpasu ystod eang o actorion gwahanol.

“Ymhellach, mae ystod o’r ffactorau sydd yn aml yn cael eu pwysleisio fel rhai allweddol i hyfywedd cymuned ieithyddol – er enghraifft y teulu, y gymuned leol, yr economi – yn gysylltiedig ag elfennau o’n bywyd sydd wedi’i heffeithio’n fawr gan y patrymau yma o newid cymdeithasol.

“Wrth i natur ein cymdeithas newid mae lle i roi mwy o sylw i effaith tueddiadau cyfoes ar rai o’n tybiaethau traddodiadol ynglŷn â sut i adfywio ieithoedd llai. Er enghraifft, a oes angen ail-ystyried ein pwyslais traddodiadol ar y teulu yn sgil y newid yn y modd y mae teuluoedd yn trefnu eu bywyd dydd i ddydd ac yn gofalu am eu plant?

“Hefyd, beth yw’r goblygiadau’r ffaith bod bywyd yn dod yn fwy symudol a bod ein harferion cymdeithasu yn newid? Yn ehangach, oes angen rhoi mwy o sylw i effaith tueddiadau fel mewnfudo, allfudo ac i shifft poblogaeth o fewn gwledydd?

“Mae enghreifftiau tebyg i hyn yn tanlinellu’r her sy’n wynebu llywodraethau ar draws Ewrop fel Llywodraeth Cymru os ydynt am fedru gweithredu strategaethau iaith sy’n ymateb i amgylchiadau bywyd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

“Fel rhan o waith y prosiect Adfywio byddwn yn rhoi sylw i sefyllfa ystod o gymunedau iaith Ewropeaidd gyda’r bwriad o adnabod gwersi a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi ac ymgyrchwyr iaith yng Nghymru ac ar draws Ewrop.’

 

Adfywio iaith, mudoledd a chymuned

 

Thema’r gweithdy, y cyntaf o bedwar, fydd ‘Adfywio iaith, mudoledd a chymuned.’

 

Cynhelir yr ail weithdy “Adfywio iaith a’r trawsnewidiad mewn bywyd teuluol” yng Nghaeredin ym mis Medi 2017.

Cynhelir y trydydd gweithdy “Adfywio iaith, globaleiddio a’r economi ddigidol ôl-ddiwydiannol” yng ngwanwyn 2018 yn  Observatoire ÉLF, Prifysgol Geneva.

Cynhelir y pedwerydd gweithdy, Adfywio iaith, y wladwriaeth a thrawsnewidiad llywodraethiant” ym mis Medi 2018 yng Nghanolfan y Pierhead yng Nghaerdydd.

Ac yna yn Ionawr 2019 cynhelir cynhadledd grynhoi ym Mrwsel ar y pwnc “Adfywio Iaith a Thrawsnewidiad Cymdeithasol”.

 

Bydd prosiect dwy flynedd sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn cyfarfod am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 22 a 23 Mai 2017.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru