Galw am sefydlu cronfa triniaethau canser i Gymru

05/11/2014

Categori: Iechyd, Newyddion

Mae cronfa canser wedi ei sefydlu yn Lloegr yn 2010

Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno deiseb 100,000 llofnod yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa triniaethau canser.

Mae'r ddeiseb yn galw am greu cronfa £200 miliwn tebyg i'r un yn Lloegr a sefydlwyd yn 2010.

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno drwy'r Blaid Geidwadol, sy'n cefnogi'r ymgyrch.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru does dim tystiolaeth y byddai cronfa o'r fath yn arwain at well canlyniadau.

Yn Lloegr mae'r gronfa yn cynnig cymorth i gleifion er mwyn talu am feddyginiaethau nad ydynt ar gael ar y gwasanaeth iechyd.

Yng Nghymru, mae gofyn i gleifion wneud cais am arian trwy system Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).

Un o drefnwyr y ddeiseb yw Ann Wilkinson o Frynbuga yn Sir Fynwy.

'Straeon trist'

Fe wnaeth hi lwyddo mewn cais i gael y cyffur arbenigol Avastin i drin canser y coluddyn, er i'w chais cyntaf gael ei wrthod.

Yn ôl y blaid Geidwadol mae gwaith ymchwil gan Sefydliad Canserau Prin yn 2013 yn dweud bod cleifion yng Nghymru bedair gwaith yn llai tebygol o dderbyn triniaeth newydd mewn cymhariaeth a Lloegr.

Yr Aelod Cynulliad, Nick Ramsey sy'n derbyn y ddeiseb ar ran y blaid a dywedodd: "Yn syml, nid yw'r mynediad at gyffuriau arloesol sy'n trin canser yn ddigon da yng Nghymru.

"Dro ar ôl tro, dwi'n clywed straeon trist o frwydr cleifion i gael gafael ar driniaeth, ac mae achos Ann Wilkinson yn enghraifft glir.

"Mae penderfyniad Ann o ddal ati i frwydro dros eraill, er iddi lwyddo derbyn arian ei hun, yn llawn ysbrydoliaeth.

"Mae penderfyniad y Blaid Lafur ar beidio sefydlu cronfa ariannu cyffuriau canser yma'n ddiangen, yn annheg ac yn gamgymeriad llwyr."

Mater o drefn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Os yw clinigwr yn credu bod modd i glaf gael budd o gyffuriau nad ydynt ar gael fel arfer ar y gwasanaeth iechyd, mae'n bosib gwneud cais i'w bwrdd iechyd i gael arian trwy system Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.

Yng Nghymru, mae cyffuriau sydd wedi eu cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gael ar gais i gleifion cymwys.

"Rydym ni'n ymfalchïo bod gan gleifion fynediad at driniaeth gost-effeithiol, sydd wedi ei brofi i fod yn llwyddiannus mewn trin amrywiaeth o afiechydon.

"Nid oes bwriad gyda ni i newid ar ein system gyllido o gyffuriau canser - mae cadeirydd y gronfa yn Lloegr wedi cyfaddef eu bod yn cynnig cronfa i gyffuriau 'nad ydynt yn effeithio ar ffigyrau goroesi' ac mae'n 'ansicr' o wellhad y cyffuriau ar safon bywyd."

 

Pot pensiwn

 

Ymunodd Rosemary Greenslade yng nghynhadledd wythnosol y Ceidwadwyr ddydd Mawrth oedd yn galw ar sefydlu cronfa cyllido cyffuriau i Gymru.

Cafodd Ms Greenslade wrthod cefnogaeth ariannol tuag at ddefnydd o'r cyffur Avastin, ac bu'n rhaid iddi wario mwy na £20,000 ei hun tuag at dderbyn y cyffur.

 

Yn sgil cais ddiweddarach, derbyniodd Ms Greenslade arian.

Dywedodd: "Y peth yw, nid yw'n cael ei roi i bawb arall yng Nghymru, felly mae'n rhaid i'r frwydr fynd yn ei blaen.

"Doedd dim dewis gyda mi ond gwario fy mhensiwn i gael y cyffur, neu yn syml, byddwn i ddim yma heddiw."

 

'Anhegwch'

 

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar holl benderfyniadau ar geisiadau meddyginiaethau gael eu gwneud gan un panel cenedlaethol.

Dywedodd arweinydd y blaid, Kirsty Williams, bod "annhegwch mawr" yn y system bresennol.

"Mae'n annheg fod cleifion yn derbyn gwybodaeth wahanol mewn ardaloedd gwahanol o'r wlad.

"Mae'r system bresennol yn cythruddo a gwneud i bobl deimlo'n rhwystredig wrth iddynt gael gwrthod rhai cyffuriau, eto eraill yn derbyn caniatâd.

"Mae'n hollbwysig i ni roi'r diwedd ar hyn. Mae angen panel cenedlaethol yng Nghymru i wneud y penderfyniadau dros bawb.

"Mi fyddai hyn yn sicrhau triniaeth deg a chyfiawn i bobl ar draws y wlad."

Mae Llywodraeth Cymru eto i ymateb i'r awgrym.

Ffynnonell: Gwefan BBC Cymru Fyw

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net