Galw am oedi i ariannu ysgolion oherwydd pryder dros dwf addysg Gymraeg

20/07/2017

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith yn pryderu y bydd datblygiad addysg Gymraeg yn cael ei rwystro tan 2024 wrth i Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae ceisiadau am gyllid y Llywodraeth i ddatblygu ysgolion i fod i’w cyflwyno’n fuan, ac awdurdodau am gyflwyno’u ceisiadau erbyn diwedd Gorffennaf, a chael dyfarniad erbyn yr hydref. Cyllid ail rownd Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif yw hyn, sy’n rhoi arian i ddatblygu ysgolion o 2019-2024. Mae £600 miliwn ar gael gan y Llywodraeth ac mae disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu’r un swm.

 

Pryder Dyfodol i’r Iaith yw bod y cyllid hwn i gael ei ddosbarthu cyn i lawer o Gynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg awdurdodau lleol gael eu derbyn gan y Llywodraeth. Pryder arall yw nad yw hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth, a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

 

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae lle mawr i ofni nad yw gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn cydweithio. Mae’n glir i ni fod awdurdodau lleol yn paratoi eu cynlluniau heb fod eu Cynlluniau Addysg Gymraeg wedi cael eu derbyn, ac yn amlwg heb iddynt gael unrhyw gyfle i ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

 

Dim blaenoriaeth i addysg Gymraeg

 

“Canlyniad hyn yw y bydd ceisiadau am arian yn cael eu cyflwyno heb fod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cynghorau. Yn rownd cyntaf Cyllid Ysgolion yr 21ain, gwariodd rhai cynghorau y nesaf peth i ddim ar addysg Gymraeg. Gall hyn ddigwydd eto.”

 

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i oedi proses gyllido ail rownd Ysgolion 21ain ganrif, ac yn gofyn i’r broses hon gael ei chlymu wrth Gynlluniau Addysg Gymraeg y Siroedd ac wrth Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru