Galw am fuddsoddiad i hyfforddi athrawon sy'n medru'r Gymraeg

07/09/2016

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am fuddsoddiad sylweddol er mwyn hyfforddi athrawon sy'n medru'r iaith.

Mae’r mudiad iaith hefyd eisiau gweld mentrau gwerth dros £100 miliwn yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei tharged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.  

 

Ymysg y cynigion mewn dogfen fanwl sydd wedi'i hanfon at bwyllgor Cyllid y Cynulliad ac at Lywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am gefnogaeth ariannol sylweddol er mwyn sicrhau cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg. 

 

Ymhlith y galwadau maent o'r farn i lansio cynllun “Dewch 'nôl” i Gymru ar gyfer athrawon sy'n siarad Cymraeg sy’n gweithio mewn gwledydd eraill gan sefydlu ac ehangu canolfannau i’r hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir. Maent yn galw am sefydlu cynllun i annog siaradwyr Cymraeg i ymuno â'r gweithlu addysg. Maent hefyd yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella sgiliau rhai sy'n hyfforddi i ymuno â'r gweithlu addysg.

 

Mae'r mudiad hefyd yn galw am nifer o fesurau er mwyn taclo'r tanfuddsoddi difrifol yn y Gymraeg ym meysydd gwariant mawr, er enghraifft, yr angen am gynnydd sylweddol yng nghanran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.     

 

Buddsoddiad sylweddol ychwanegol

 

Dywedodd Jamie Bevan ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ei huchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, bydd rhaid cael buddsoddiad sylweddol ychwanegol. Fel arall, geiriau gwag yn unig ydyn nhw. Argymhellwn fod angen buddsoddiad o dros £100 miliwn ychwanegol er mwyn sicrhau bod targedau'r Llywodraeth yn cael eu gwireddu, a daw manteision economaidd ac addysgiadol yn sgil y buddsoddiad hwn yn ogystal â buddion diwylliannol sylweddol. Heb os, ac fel mae'r Llywodraeth yn cydnabod, mae'n rhaid buddsoddi'n sylweddol cyn gynted â phosibl er mwyn creu gweithlu addysg fydd yn gallu creu miliwn o siaradwyr. Mae Gweinidogion wedi dweud hynny eu hunain. Nawr yw'r amser i fuddsoddi, dyma'r cyfle."

 

Gwlad y Basg 

 

Ychwanegodd, "Mae Cymru yn tanfuddsoddi'n ddifrifol yn y Gymraeg ar hyn o bryd ac felly nid ydym fel gwlad yn elwa'n llawn o'r manteision addysgiadol, diwylliannol ac economaidd a allai ddeillio o'n hiaith unigryw genedlaethol. Yng Ngwlad y Basg, mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o'u cyllideb ddatganoledig ar brosiectau i hyrwyddo'r Fasgeg; yma mae'r ffigwr oddeutu 0.16%. Yn yr ardal honno, gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth, ac mae'n bosibl cymharu hynny gydag ardaloedd yng Ngwlad y Basg nad ydynt yn rhan o'r gymuned ymreolaethol." 

 

Mae'r grŵp pwyso hefyd yn dadlau y dylai'r Llywodraeth sefydlu parciau busnes cyfrwng Cymraeg, darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd, a corff newydd i hyrwyddo'r Gymraeg, a dyblu ei buddsoddiad yn rhaglen 'Cymraeg i Blant'. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru