Eurig Salisbury yn ennill y Fedal Ryddiaith

Eurig Salisbury sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd bedair ar ddeg o ymgeiswyr.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Galw’.  Y beirniaid oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis.  Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Gyfun Gwynllyw.

 

Wrth draddodi’r feirniadaeth a sôn am ‘Cai’ gan Siencin, meddai Angharad Dafis, “Nofel ddeheuig ydyw yn agor â chyfres o ddarluniau o Aberystwyth, gan hoelio sylw ac ennyn chwilfrydedd.  Dyma stori gyffrous wedi ei dweud yn dda am awydd artist anweledig o Gymraes i ddarganfod y gwir am ddiflaniad ei nith.

 

“Efallai fod trawstiau’r tŷ yn rhy amlwg weithiau, ond mae’r adeiladwaith wedi ei saernïo’n gywrain. Chwedl Jane Aaron: ‘Dod â’r tywyllwch.. i olau dydd; dyna’r ‘alwad’ sy’n ysgogi Cai a Ffion wrth iddynt ymbalfalu yn archifau’r Llyfrgell Genedlaethol’.

 

Nid stori foel, ddi-gyd-destun sydd yma: gwelodd Dafydd Morgan Lewis alegori wleidyddol ‘Synhwyrwn fod rhywbeth yn corddi yn isymwybod y genedl’ meddai, ‘rhyw annifyrrwch ac anesmwythyd mawr. Mae materion eraill fel rôl merch ym myd celf (ac yn y gymdeithas) ...yn brigo i’r wyneb hefyd.’

 

Awn i fyd myfyrwyr ac anawsterau byw yng Nghymru heddiw. Ceir dychan a beirniadaeth amserol o ffuantrwydd a Seisnigrwydd y byd celf a’r Brifysgol, er bod y gor-ddefnydd o Saesneg yn gwanhau’r ergyd.

 

Lle sy’n marw ar ei draed

 

Darlunir cyflwr bregus economi gorllewin Cymru, a’r brifddinas yn sugno’r ieuenctid i’w chrombil. Mewnfudwyr a hen bobl sydd ym Mhen-llwch ger Brithdir erbyn hyn - lle sy’n ‘marw ar ’i draed’ yng ngeiriau Ffion. Wele Gymru y mae amser a chynnydd ac ymarfogi gwleidyddol fel pe baent wedi anghofio amdani. 

 

Ai nofel dditectif ynte nofel ddirgelwch ydyw, hyd yn oed os nad yw’r dirgelwch wastad mor gudd â hynny? Bydd i ‘Cai’ apêl eang, sut bynnag: camp Siencin yw iddo lwyddo i ddefnyddio fframwaith nofel boblogaidd i ddweud pethau y mae dirfawr angen eu dweud am Gymru a’r Gymraeg. Yr ydym fel tri beirniad yn unfryd - mewn cystadleuaeth y byddai’r annwyl John Rowlands yn falch iawn ohoni - ei fod yn llwyr deilyngu’r Fedal Ryddiaith.” 

 

Cafodd Eurig Salisbury ei eni yng Nghaerdydd yn 1983 a’i fagu ym mhentref Llangynog yn Sir Gâr. Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004, a gradd MPhil ar ganu cynnar Guto’r Glyn yn Adran y Gymraeg yn 2006.

 

Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle cyfrannodd at dri phrosiect arloesol ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, cyn ei benodiad, yn 2015, yn Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Enillydd y Gadair Sir Ddinbych 2006

 

Enillodd Eurig y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Llyfr Glas Eurig (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2008, a chyfrol o gerddi i blant, Sgrwtsh! (Gomer), yn 2011. Mae’n aelod o dîm llwyddiannus y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, ac o dîm Sir Gâr yn Ymryson y Beirdd.  Eurig oedd Bardd Plant Cymru 2011-13.  Ef yw Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales.

 

Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i wraig, Rhiannon, a’u mab, Llew. Mae’n frawd i Leila a Garmon, ac yn fab i Eurwen a Vaughan. Mae ganddo gysylltiadau teuluol â Dyffryn Ceiriog ar ochr ei fam, ac â Phrestatyn ar ochr ei dad, dau le sy’n agos iawn at ei galon.

 

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.