Enwogion yn galw am ddiogelu cyllideb S4C

23/11/2015

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae'r bardd Benjamin Zephaniah a'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens ymysg nifer o enwogion sydd wedi anfon llythyr agored at David Cameron yn galw ar y Ceidwadwyr i gadw at eu haddewid i 'ddiogelu' cyllideb S4C. 

 

Daw'r newyddion wrth i ymgyrchwyr ddisgwyl clywed am gyfraniad y Llywodraeth i gyllideb S4C yn y cyhoeddiad am yr adolygiad gwariant ddydd Mercher. Erbyn eleni mae llai na £7 miliwm yn mynd o goffrau'r Llywodraeth i'r unig ddarlledwr Cymraeg ei iaith, o gymharu â chan miliwn o bunnau bum mlynedd yn ôl. Ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol eleni, roedd addewid i "ddiogelu ariannu ac annibyniaeth olygyddol S4C”. 

 

Ymysg llofnodwyr eraill y llythyr mae'r artistiaid Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan, Dewi Pws, Casi Wyn, y cyflwynydd tywydd Siân Lloyd a'r DJ Huw Stephens. Yn y llythyr at Brif Weinidog Prydain, maen nhw'n dweud: "... S4C yw'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, ac mae'n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ffyniant y Gymraeg, iaith fyw hynaf Prydain ... Dywedwyd wrth wneud y toriadau hyn bum mlynedd yn ôl y byddai unrhyw doriad pellach yn golygu na fyddai'r darlledwr yn gallu parhau. Bellach, mae Llywodraeth Prydain yn cyfrannu llai na £7 miliwn y flwyddyn i gyllideb S4C gyda gweddill yr arian yn dod o'r ffi drwydded. Mae'r grant bach hwn yn un o'r ychydig ffyrdd mae Llywodraeth Prydain yn cefnogi'r Gymraeg yn uniongyrchol. Cafwyd addewid yn eich maniffesto Cymreig y byddwch chi fel Llywodraeth yn 'diogelu' cyllideb S4C. Rydym yn croesawu hynny, ac yn gofyn i chi anrhydeddu'r addewid hwnnw yn yr adolygiad gwariant a gyhoeddir yn fuan." 

 

Adlewyrchu cefnogaeth gref

 

Wrth groesawu'r llythyr agored at Brif Weinidog Prydain, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r llythyr yn adlewyrchu’r gefnogaeth gref i'r sianel. Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf. Byddai unrhyw doriad pellach yn chwalfa i'r sianel, ac yn tanseilio'r Gymraeg. Mae'r iaith yn drysor i gymaint o bobl ar draws ynysoedd Prydain, byddai'n ergyd i gyfoeth diwylliannol y byd pe bai bygythiad pellach i S4C. Cafwyd addewid clir gan y Ceidwadwyr yn yr etholiadau na fyddai unrhyw doriad pellach i'r darlledwr: pe bydden nhw'n torri'r addewid hwnnw, byddai goblygiadau etholiadol difrifol iddyn nhw yn etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf."

 

Ychwanegodd, "Dy'n ni ddim eisiau gweld y BBC yn traflyncu S4C ac yn dominyddu'r farchnad hyd yn oed yn fwy. Yr hyn sydd angen er mwyn datblygu'r Gymraeg i fod yn rhan o'r oes ddigidol, ac i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod, yw datblygu S4C ymhellach." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru