Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel am ddatblygu eu hun fel perfformiwr

Yn dilyn ennill ysgoloriaeth Bryn Terfel gwerth £4,000 dros y Sul, mae Steffan Hughes o Sir Ddinbych am ddefnyddio’r arian i ddatblygu eu hun fel pefformiwr.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth  i Steffan o flaen cynulleidfa’r Stiwt yn Rhosllannerchrugog nos Sul.    

 

Dywedodd Steffan Hughes,  “Roedd yn wych cael cystadlu heno, gan gael y cyfle i ddewis darnau fy hun a cheisio rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’r darn Cerdd Dant.  Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl gan mod i wedi bod yna ddwywaith o’r blaen a heb ennill! Mi oedd pawb mor dda heno  - hollol ffantastig.

Gydag arian yr Ysgoloriaeth rwyf yn gobeithio datblygu fel perfformiwr gan ddefnyddio’r arian i dalu am hyfforddiant pellach a gwersi.” 

 

Yn ôl Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r panel o feirniaid “Mae’r Ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle nid yn unig i ni anrhydeddu unigolyn, ond hefyd i chwech perfformiwr ifanc arddangos eu talentau.  Mae’n brawf o gyfoeth y bobl ifanc sydd gennym fel cenedl.”

 

Cyfoeth talent

 

Dywedodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Unwaith yn rhagor eleni rydym wedi profi bod cyfoeth talent anhygoel ymysg pobl ifanc Cymru. Cawsom Eisteddfod wych yn Sir y Fflint yn ôl ym mis Mai, a dyma ni yn cau pen y mwdwl ar weithgareddau’r ŵyl yma yn Y Stiwt gyda chyngerdd wefreiddiol yr Ysgoloriaeth uchel ei bri hon.

 

Pob hwyl i Steffan wrth iddo ddatblygu ei yrfa gyda help yr Ysgoloriaeth, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed sut fydd yr hwb yma yn ei helpu i’r dyfodol.”

 

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, “Llongyfarchiadau gwresog i Steffan ar ei lwyddiant a hefyd i’r cystadleuwyr i gyd ar safon eu perfformiadau.  Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth sy’n annog pobl ifanc i fentro yn eu gwahanol ddisgyblaethau i anelu’n uchel. Mae’n gystadleuaeth bwysig sy’n meithrin doniau pobl ifanc.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru