Elinor Gwynn yn ennill y Goron

Elinor Gwynn yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

‘Llwybrau’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, a’r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau, ac ymgeisiodd 33 o feirdd yn y gystadleuaeth. 

 

Y beirniaid oedd Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones.  Roedd y tri beirniad yn unfrydol mai gwaith Carreg Lefn oedd yn fuddugol, gyda chanmoliaeth uchel i’r casgliad o gerddi a gafwyd gan y bardd. Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Siân Northey, “Mae yna rhai pobl 'da chi'n gwirioni efo nhw'r eiliad 'da chi'n eu cyfarfod, mae yna eraill y dowch i'w deall a'u caru dros gyfnod o amser. Perthyn i'r ail griw oedd gwaith Carreg Lefn i mi, ac i Einir dw i'n credu, tra bu i Menna ymserchu ar y darlleniad cyntaf.

 

“Mae Menna ac Einir yn eu beirniadaethau wedi cyffelybu'r cerddi i waith celf. A darluniau gawn ni yma, darluniau celfydd a gwreiddiol ac fel y dywed Menna "heb ffrils na ffiloreg".

 

“Cawn ein tywys ar hyd gwahanol lwybrau i weld y pethau a welodd Carreg Lefn - y gŵr â dementia yn mynnu cael hyd i garreg y cred bod ysgrifen arni, y traeth a gerddodd y bardd ar ei hyd y llynedd hefyd, y profiad o grwydro'r prom rhywbryd rhwng nos a dydd.

 

“Rhaid dilyn y bardd ac ymddiried ynddo ei fod yn dangos pethau o bwys i ni, ac y mae'r bardd yntau'n ymddiried yn ei waith ac yn ymddiried yn ei ddarllenydd i wneud yr hyn a fynno o'i gerddi.

 

“Arwydd o gasgliad da, o gasgliad cyson ei safon, yw ei bod yn anodd penderfynu pa linellau i'w dyfynnu. Ond nid oes raid i mi boeni, gan ei fod yn bleser cyhoeddi bod y tair ohonom yn gytûn mai Carreg Lefn sydd yn llwyr haeddu coron Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau.”

 

Caerdydd a Chaerfyrddin

 

Magwyd Elinor Gwynn yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Gwyddoniaeth, byd natur, a chrwydro yn yr awyr agored oedd ei diddordebau mawr, ac aeth ymlaen i astudio Swoleg a Botaneg ac yna arbenigo a chymhwyso ymhellach mewn Cyfraith Amgylcheddol.

 

Mae hi wedi dilyn gyrfa yn y maes amgylcheddol ac wedi gweithio mewn sawl rhan o Gymru yn gofalu am dirweddau, cynefinoedd, a bywyd gwyllt: ymhlith yr ardaloedd hyn mae arfordir sir Benfro, Canolbarth a Gororau Cymru, Eryri a Phen Llŷn. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau treftadaeth dros y ffin yn Lloegr a’r Alban.  Mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei diddordeb mewn tirwedd, amgylchedd a threftadaeth gyda phobl eraill ac yn mwynhau’r holl drafod difyr am y maes gyda chyfeillion a chydweithwyr.

 

Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y berthynas rhwng iaith a thirwedd; ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar brosiect treftadaeth iaith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ac yn gobeithio dechrau cyn hir ar waith a fydd yn edrych ar y cysylltiad rhwng iaith ac ecoleg ar hyd arfordir y gorllewin.

 

Tirlun hardd

 

Ardal Sir Fynwy sydd wedi ysbrydoli’r cynllun ar gyfer y Goron eleni, gyda’r artist, Deborah Edwards yn awyddus i ddathlu’r tirlun hardd, y tirnodau pensaernïol hynod a threftadaeth ddiwylliannol y sir.  Rhoddir y Goron gan Gymreigyddion Y Fenni, a daw’r wobr ariannol gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd. 

 

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.