Elin Fflur yn Monte Carlo

22/01/2015

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Elin Fflur yn Monte Carlo

Mae Monte Carlo yn enwog am ei chasinos, ei chysylltiad gyda ffilmiau James Bond ac arfordir anhygoel sy’n gyrchfan i’r cyfoethog a’r adnabyddus, ond bydd y gantores Elin Fflur yn perfformio o flaen rhai miloedd o bobl ym Monte Carlo heddiw yn seremoni agoriadol pencampwriaeth FIA rali’r byd 2015.

 

Bydd Elin sydd hefyd yn cyflwyno rhaglen heno ar S4C yn rhannu llwyfan gyda’r actor Idris Elba, pencampwr olympaidd neidio polyn Renaud Lavillenie, ac enillydd ras Le Mans Jacky Ickx, a’r actor Ffrengig, François Cluzet.

 

Fe fu Lleol.Cymru yn holi’r ferch o Fôn wrth iddi deithio i Monte Carlo yn Ne Ffrainc a bu'n esbonio'r hanes, ‘Mi oeddwn i yn mynd allan yn wreiddiol i wneud eitem ar y gyrrwr rali Elfyn Evans sy’n cystadlu yn y bencampwriaeth."

 

"Ond mi glywodd y trefnwyr fy mod i yn gwneud eitem a mi naethon nhw ofyn imi berfformio! Hwn ydi cymal cyntaf y rali, gyda chymal yn ngogledd America a  De America a gorffen yng Nghymru." 

 

Ac yn addas iawn, fe fydd Elin yn perfformio can 'Sky Fall' a oedd y brif gân yn ffilm ddiweddaraf James Bond sy'n rhannu'r un enw.

 

Meddai, "Mi fyddai'n canu cân Adele ond dwi wedi mynd ac ambell i gân Gymraeg rhag ofn!" 

 

Ac mae’n edrych ymlaen i ymweld â ardal Monte Carlo fel yr eglurodd, "Dwi heb fod ym Monte Carlo o’r blaen ac felly yn edrych ymlaen yn ofnadwy, dwi wedi clywed ei fod yn le anhygoel."

 

Yn Monte Carlo, fe fydd Elin hefyd yn mentro i sedd car rali a chael taith, gyda’r gyrrwr enwog Elfyn Evans wrth y llyw, "Dwi ddim yn siwr be di fwya nerfus, mynd mewn car rali neu ganu o flaen miloedd!"

 

Bydd yr eitem gyda Elfyn Evans yn cael ei ddarlledu'r wythnos nesaf ar raglen Heno, felly cadwch eich llygad am Elin yn Monte Carlo.   

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net