Lluniau o eira mawr Mawrth 2018

05/03/2018

Categori: Amgylchedd, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Llun: Awen Schiavone

Syrthiodd mwy o eira ddiwedd wythnos diwethaf, o Gaerdydd i Ben Llŷn wrth i’r bwystfil o’r dwyrain greu hanes. Rydym wedi dethol lluniau o’r hwyl yn yr eira.

Fe gafodd Caerdydd a’r Fro dros droedfedd o eira fore Gwener gyda 7 troedfedd o luwchfeydd wedi ffurfio yn y gwynt garw mewn mannau, tra fod ardaloedd fel Pen Llŷn hefyd wedi gweld eira sylweddol yn disgyn dros nos, nos Wener a bore Sadwrn. Mae’r eira bellach yn dechrau dadmer ond fe roedd y dyddiau diwethaf yn gwbl anhygoel, gyda gwyntoedd cryfion hefyd yn gwneud difrod.  

 

Fe wnaeth rhai yn fawr o’r tywydd anarferol, trwy godi dynion eira, tra fod iglws yn cael ei creu allan o’r eira trwchus. Fe aeth eraill i’r mynyddoedd i ddringo alpaidd a eirfyrddio lawr caeau mewn amgylchiadau delfrydol i sgio. 

 

Dyma gipolwg o luniau’r dyddiau diwethaf: