Diwrnod y Llyfr 2013

27/02/2013

Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion

Diwrnod y Llyfr 2013

Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.

 

Cefnogaeth Enwogion

 

Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.

 

Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.

 

Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.

 

Aled-Davies-Poster-Diwrnod y Llyfr 2013

 

Georgia-Davies-Poster-Diwrnod y Llyfr 2013

 

Aled-Davies-Poster-2-Diwrnod y Llyfr 2013

 

Georgia-Davies-Poster-2-Diwrnod y Llyfr 2013

 

rhowch lyfr yn anrheg

Mwy yma