Diwrnod #ShwmaeSumae yn mynd o nerth i nerth
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Iechyd, Llenyddiaeth, Newyddion

Heddiw oedd Diwrnod Shwmae Sumae sy’n dathlu ei chweched flwyddyn eleni ac fe roedd cannoedd o ysgolion, busnesau a sefydliadau yn dathlu'r diwrnod arbennig hwn led-led Cymru a thu hwnt.
Syniad y diwrnod yw annog a helpu dinasyddion Cymru (boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau) i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.
Un o bencampwr Diwrnod Shwmae Sumae 2018 yw Iestyn ap Dafydd o Landysul, un o sylfaenwyr SaySomethinginWelsh.com. Yn wreiddiol o Gwm Rhymni, cafodd ei addysg yn Gymraeg er nad Cymraeg oedd iaith ei gartref.
Wrth esbonio pwysigrwydd Diwrnod Shwmae, meddai Iestyn, “Mae’n gyfle i godi proffil y Gymraeg drwy’r byd, a thrwy hynny i annog pobl i ddefnyddio / dysgu / dysgu rhagor. Rydw i’n bwriadu cynnal ‘Shwmaeathon’ 24 awr ar-lein, lle bydd modd i fi siarad yn uniongyrchol gyda siaradwyr Cymraeg – boed yn siaradwyr bore oes, neu’n siaradwyr newydd sbon – trwy’r byd i gyd. Gan ddechrau am 3 y bore ar y 15fed (er mwyn dal Seland Newydd cyn iddynt fynd i’r gwely) a chwpla am 3 fore trannoeth (wrth i bobl Hawaii gael eu cinio), dwi’n gobeithio gallu cynnal sgyrsiau cyson trwy’r cyfnod, a chodi ymwybyddiaeth y Cymry, gartref ac alltud, o ba mor eang y mae’r iaith yn cael ei siarad a’i dysgu.
Bydd Iestyn yn derbyn nawdd gan bobl i godi arian ar gyfer elusen Cymraeg yn Llandysul, sef Calon Tysul, y ganolfan hamddena gymunedol.
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod llawn digwyddiadau trwy Trydar.