Diwedd yr Awr Gymraeg ar Trydar
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Fe gyhoeddodd cyfrif Twitter Yr Awr Gymraeg y bydd yn dod i ben ar ar Dachwedd 15, eleni.
Mae’r cyfrif eleni wedi cyrraedd carreg filltir trwy ddathlu 5 mlynedd o'r gwasanaeth sy'n cynnal awr o farchnata yn y Gymraeg rhwng 8 a 9 bob nos Fercher ers 2012.
Mae modd i fusnesau a chyrff wneud cais am aildrydariad gan ychwanegu yr hashtag #yagym i’w hysbyseb.
Fe ddywedodd y sylfaenydd yr Awr, Huw Marshall ar Radio Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo’r Gymraeg yn ddigidol.
Bellach mae gan Yr Awr Gymraeg bron i 10,000 o ddilynwyr ar Twitter. Mae unigolion a sefydliadau wedi mynegi siom ar Trydar wrth glywed mai dyma’r diwedd i’r Awr Gymraeg. Dyma gip ar yr ymateb hyd yma: