Diogelu llun eiconig Salem i'r Genedl

10/10/2019

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi prynu llun Salem ar ran y genedl, i’w ddiogelu a’i drysori am byth.

Mae’r paentiad erbyn heddiw yn eicon celfyddydol Cymreig. Wedi ei beintio yn 1909 gan yr arlunydd Curnow Vosper, mae’n darlunio golygfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech. Siân Owen yw’r cymeriad sy’n ganolog i’r paentiad.

 

Daeth Salem i fod yn gofnod eiconig o fywyd Cymreig a’r traddodiad anghydffurfiol  yng Nghymru, a magodd enwogrwydd cynyddol yn sgil y ffaith bod rhai yn gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl cymeriad canolog y llun. Mae’r paentiad yn un o ddwy fersiwn a baentiwyd gan Vosper.

 

 Fe brynwyd y cyntaf yn wreiddiol gan ddiwydiannwr o’r enw William Hesketh Lever a defnyddiwyd y ddelwedd mewn ymgyrch hyrwyddo eang gan Sunlight Soap, cwmni’r Lever Brothers'. O ganlyniad, lledaenwyd atgynhyrchiadau o’r llun ar draws Prydain ac y mae’r ddelwedd yn enwog am ei hymddangosiad mewn cartrefi ar draws Cymru. Nid syndod felly bod Salem heddiw yn un o luniau mwyaf enwog Cymru, mor eiconig yn ôl rhai ag yw The Hay Wain yn Lloegr. Cafodd yr ail fersiwn hwn  ei beintio ar gyfer brawd-yng-nghyfraith yr artist, Frank James.

 

Trysor

 

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: “Rydym mor falch o fod wedi llwyddo i brynu’r llun eiconig hwn o’r oedfa yng Nghefn Cymerau a Siân Owen a’r diafol yn ei siôl. Mae’r gwaith enigmatig hwn o eiddo Sydney Curnow Vosper yn un o drysorau’r genedl ac rwy’n edrych ymlaen at cyfleoedd i’w rhannu â Chymru a thu hwnt.  Bydd yn bleser medru ei harddangos a mynd â fo allan i’r gymuned, fel rhan o’n  rhaglenni Campwaith Mewn Ysgolion.”


Yn ôl Meri Huws, Is-lywydd y Llyfrgell: “Gallai’r trysor amhrisiadwy hwn fod wedi’i golli’n hawdd i’r genedl a byddai hynny wedi bod yn drychineb mawr. Mae’r Llyfrgell ar hyd y blynyddoedd wedi casglu gwaith celf sy’n portreadu bywyd Cymru ac fe fydd y darlun hwn yn cyfoethogi’r casgliad rhagorol ac helaeth sydd gennym o waith celf Cymreig. ”
Meddai Ben Rogers Jones o gwmni arwerthwyr Rogers Jones “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu hwylustod wrth gytuno ar y gwerthiant. Ni allaf feddwl am geidwad mwy deinamig, creadigol a theilwng na’r Llyfrgell, a byddaf am un yn edrych ymlaen at weld ‘Salem’ yn ei gartref newydd yn Aberystwyth.”