Dim ond 8% sy’n cefnogi ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr yng Nghaerdydd, yn ôl adroddiad

17/01/2020

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Dim ond 15 ymateb gefnogodd cynnig Cyngor Caerdydd i agor ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr o gymharu â channoedd a alwodd am ysgol cyfrwng Cymraeg, yn ôl adroddiad swyddogion i gynghorwyr.

Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg.

 

Mae adroddiad swyddogion am ganlyniadau’r ymgynghoriad yn datgan: "O’r  180 ymateb  a ddaeth i law ...  9% (15) o’r rhai a ymatebodd yn cyfeirio’n benodol at gefnogi’r syniad o ysgol ddwy ffrwd yn hytrach nag un ai ysgol Gymraeg neu Saesneg yn unig". Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y derbynion nhw ddeiseb gydag 876 llofnod arni hi’n galw am ysgol benodedig Gymraeg.
Mae datblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas yn golygu adeiladu hyd at saith mil o dai dros y saith mlynedd nesaf. Yn yr ardaloedd hyn - Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch - y mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

 

Dywedodd Mabli Siriol o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n amlwg o’r adroddiad bod llawer iawn mwy o gefnogaeth ymysg y cyhoedd i ysgol benodedig Gymraeg nag un ddywieithog. Rydyn ni’n galw ar Arweinydd y Cyngor felly i gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog. Wedi’r cwbl, dyna sydd ei hangen os yw’r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyrraedd.

 

“Byddai ailymweld ag arbrawf methiedig addysg ddwyieithog sydd wedi ei brofi’n ffordd wael o drwytho disgyblion yn y Gymraeg yn gam annigonol i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y ddinas.

 

Rhwystro twf

 

“Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai yma yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu’n gyflym y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Drwy beidio defnyddio’r cyfalaf sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, mae’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.”
Mae disgwyl i gabinet y cyngor benderfynu ar gyfrwng iaith yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad Plasdŵr ddydd Iau nesaf