"Dim egni ar ôl gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg", yn ôl mudiad iaith

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith na bydd yn gweithredu i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith Hamdden a Chwaraeon gan nad yw yn credu mewn "gorfodaeth".

Mewn llythyr at y Gymdeithas, dywed y Dirprwy Weinidog fod y "Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru lunio ei chwricwlwm ei hun o fewn fframwaith cenedlaethol" ac y byddai'n “groes i ethos y Cwricwlwm i Gymru” felly i annog ysgolion i ddysgu Addysg Gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Anfonodd y Dirprwy Weinidog y llythyr hwn at Gymdeithas yr Iaith mewn ymateb i ymgyrch ‘Cymraeg Iaith Hamdden’ y Gymdeithas i normaleiddio’r Gymraeg fel prif gyfrwng chwaraeon a hamdden yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i’r llythyr, dywed llefarydd Grŵp Hamdden Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams: "Siom mawr yw fod y Dirprwy Weinidog wedi trefnu ymateb negyddol i ymgyrch y mae brwdfrydedd drosti o ran gwneud y Gymraeg yn brif iaith Chwaraeon a Hamdden. Yr hyn sydd yn y llythyr sy'n dwyn ei enw yw ymateb nodweddiadol gwasanaeth sifil o ddisgrifio'n fanwl y sefyllfa bresennol heb ymrwymo i unrhyw fenter o'r newydd. Dyma arwydd o lywodraeth nad sydd ag unrhyw egni ar ôl.
“Nid yn unig hyn, ond mae’r ffaith i’r Dirprwy Weinidog honni y byddai annog dysgu Addysg Gorfforol drwy gyfrwng y Gymraeg ‘yn mynd yn erbyn ethos’ y cwricwlwm newydd naill ai’n dangos ei fod wedi camddeall yr ethos hwn neu nad ydy’r ethos hwn yn ffit i bwrpas. 

 

Siomedig

 

“Un o’n galwadau yn ein hymgyrch ‘Cymraeg Iaith Hamdden’ yw hybu symudiad at ddysgu Chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru - byddai pob ysgol yn cael ei roi ar un gontinwwm tuag at gyrraedd y nod hwn, ac fe fyddai hyfforddiant mewn swydd ar gael i athrawon er mwyn hwyluso hyn. Mae’n galwadau felly yn gwbl gyrhaeddadwy ac mae’n hynod siomedig nad yw’r Llywodraeth wedi dangos unrhyw ewyllys gwleidyddol yma.” 

 

Ymhelaethodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Ruth: "Mae'n wir y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i ysgolion gyflwyno Addysg Gorfforol a phynciau eraill yn eu ffordd eu hunain, ond byddai trefnu fod y Gymraeg yn gynyddol ddod yn gyfrwng yr addysg yn rhan o fframwaith cenedlaethol honedig y Llywodraeth o hyrwyddo'r Gymraeg, a chyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyfforddi'r gweithlu i gyflawni hyn. Yr un modd, mae'r Dirprwy Weinidog yn gwrthod hyd yn oed wneud datganiad yn annog Cyrff Chwaraeon Cenedlaethol i gynyddol wneud y Gymraeg yn iaith chwaraeon. Ac ar ben hyn, mae gan y Dirprwy Weinidog agwedd laissez-faire wrth beidio â hybu mentrau cydweithredol a allent ddarparu gwaith i Gymry ifanc ym maes gweithgraeddau awyr agored gan fanteisio ar adnoddau naturiol ein gwlad. Yn lle hynny, mae'r gweision sifil yn crybwyll fod nifer o grantiau potensial a allent o bosibl fod yn berthnasol.

 

"Dyma lywodraeth sydd wedi blino, ac sydd heb unrhyw awydd i weithredu'n bendant er bod cymaint o bobl ifanc yn gorfod ymadael â'u cymunedau, ac er bod yr iaith Gymraeg dan gymaint o bwysau. Galwn ar bleidiau gwleidyddol sydd ag uchelgais i fod yn rhan o'r llywodraeth nesaf i fabwysiadu agwedd mwy cadarnhaol at y cynigion hyn a allent gryfhau'r iaith a chynnig gwaith i bobl yn eu cymunedau."