Dim addysg cyfrwng Cymraeg i bawb tan 2170

19/12/2017

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am gynllun addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos yma.

Mae'r cynllun yn bwriadu arafu'r twf yn y canran o blant sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg dros amser. Mae'r ddogfen yn amlinellu y bydd y 22.4% sy'n cael eu haddysgu drwy'r Gymraeg eleni yn cynyddu i 30% erbyn 2031, sef twf o oddeutu 0.542% y flwyddyn. Rhwng 2031 a 2050, mae'r cynllun yn anelu at dwf o 30% mewn addysg cyfrwng Cymraeg i 40%, sy'n dwf o oddeutu 0.526% y flwyddyn.

 

Roedd ymchwil a gyhoeddwyd gan y mudiad iaith y llynedd yn dangos y bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif.

 

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae angen i'r Llywodraeth weddnewid y system addysg os yw am sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Y broblem sylfaenol gyda'r cynllun yw bod y camau i normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhy araf o lawer. Ac, er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i greu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg, mae'r cynllun yn osgoi ymrwymo'n gadarn i sicrhau y bydd un cymhwyster Cymraeg a phob disgybl yn ei sefyll.

 

"Yn 2013, dywedodd adolygiad annibynnol y Llywodraeth bod angen dileu Cymraeg Ail Iaith 'ar frys' ac erbyn, fan hwyraf, 2018. Fodd bynnag, dan y cynllun hwn mae perygl y bydd y cymhwyster ail iaith yn parhau tan 2025. Felly bydd bron i 80% o'n pobl ifanc yn dal i gael eu hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl. Yn ein cyfarfod diweddar gyda Chymwysterau Cymru, roedden nhw'n fodlon cyhoeddi cymhwyster cyfun newydd yn 2019 fel bod rhai ardaloedd yn gallu dileu Cymraeg Ail Iaith yn gynt na 2025. Byddwn ni'n pwyso ar y Gweinidog i ymrwymo i hynny."

 

Anigonol

 

Ychwanegodd: "O ran twf addysg cyfrwng Cymraeg, mae'r cynlluniau yn y ddogfen yn bell y tu ôl i'r hyn roedd y Llywodraeth wedi addo yn ôl yn 2010, heb sôn am yr hyn fyddai'n ddigonol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn y degawdau nesa. Yn wir, mae'r Llywodraeth yn cynllunio twf arafach rhwng 2030 a 2050 na thros y blynyddoedd nesa, sy’n rhyfedd. Pe bai'r patrwm yn y cynllun yn parhau, byddai rhaid aros tan tua 2170 i gael system addysg lle mae pob plentyn yn derbyn eu holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n chwerthinllyd – wedi'r cwbl, yng Nghatalwnia mae gyda nhw addysg cyfrwng Catalaneg i bob disgybl ar hyn o bryd – pam fod rhaid i ni yng Nghymru aros canrif a hanner i gael addysg i bawb yn ein hiaith?"

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru