Dilyn hynt merch o Lanelli sy'n cystadlu am Miss Universe

30/01/2020

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mewn portread agored, mae Emma Jenkin o Lanelli yn cystadlu am goron Miss Universe 2019a fe fydd rhaglen DRYCH: Miss Universe yn dilyn ei hynt a'i helynt nos Sul.

Byddwn yn dod i’w hadnabod oddi ar y catwalks a’r byd ffasiwn. Dywedodd Emma, sy’n 26 mlwydd oed, “Miss Universe yw’r freuddwyd ers ennill Miss Cymru yn 2015. I gyrraedd, mae angen ennill Miss Prydain Fawr ac mae honno ei hun yn gystadleuaeth fawr ac anodd, o ni wir ddim yn credu y byddwn yn cal fy newis. Roeddwn wedi tynnu allan dwy waith o’r blaen gan fod llais yn fy mhen yn dweud fy mod i ddim digon da. “Mae’n fraint bod ymhlith y 90 o ferched profiadol a hyderus sy’n cystadlu am Miss Universe. Mae rhai ohonynt yn gyfreithwyr hawliau dynol a rhai yn athrawon.

 

Dyna beth y ni mewn gwirionedd, merched cyffredin sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Ma’n hawdd anghofio pwer un person i neud pethau da. Does dim cattyness fel ma pobl yn feddwl. Dwi jyst yn ferch o Lanelli sy’n trio gwneud gwahaniaeth.” Cyn cyrraedd America, bydd Emma’n gadael cefn gwlad sir Gâr am slymiau India, i ymweld â Stop Acid Attacks, un o’r elusennau ma hi’n ei chefnogi. Sut bydd y profiad yn effeitho arni? Gyda pwyslais mawr ar godi arian, bydd enillydd Miss Universe yn cael eu cyflogi am flwyddyn, yn cael fflat yn Efrog newydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o waith dyngarol o’u dewis.

 

Cystadleuaeth fawreddog

 

Mae’r gystadleuaeth fawreddog, a sefydlwyd yn Long Beach, California yn 1952, yn cael ei wylio gan dros hanner biliwn o bobl ac yn cael ei ddarlledu mewn mwy na 150 o wledydd. Wrth brofi cyffro’r byd hudol, cawn hefyd weld tu ôl y llen a darganfod beth sy'n ysgogi Emma. “Rwyf wedi cael fy siâr o frwydrau ar ôl bod mewn perthynas ddinistriol. Roedd yn amser anodd iawn - un nad ydwyf wedi gallu siarad amdano yn gyhoeddus o’r blaen. Yn sicr, mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o lwyddo. “Hap a damwain oedd dod mewn i’r byd ma pan o ni’n 16 mlwydd oed. O ni’n gwybod dim am pageants nes cael fy nghyflwyno gan Huw Fash. Nawr, dwi wrth fy modd yn trafod a ceisio newid y ffordd ma pobl yn feddwl amdanynt. “Mae pethe wedi newid ers amser vital stats ar y screen a phan oedd merched prin yn siarad. Nawr, personoliaeth sy’n bwysig ac mae harddwch yn cyfri am llai na hanner y pwyntiau. Mae cymaint o bobl ifanc heddiw yn becso dim am y byd. Gall y beirniad ofyn am unrhyw bwnc cyfoes felly mae’n rhaid cael barn a gwybod sut i’w fynegi.”