Cymru'n dathlu'r llyfr

05/03/2015

Categori: Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Chwaraewr Abertawe Ben Davies yn dathlu'r llyfr

Bu Cymru gyfan yn dathlu diwrnod y llyfr heddiw, wrth i ysgolion, llyfrgelloedd, a phobl o bob oed fynd ati i rannu lluniau a negeseuon yn datgelu eu hoff nofelau neu hoff lyfrau.

 

O Balas Print yng Nghaernarfon, i ysgolion yn y de, yn enwogion fel chwaraewr Cymru, Ben Davies, yr Aelod Cynulliad Simon Thomas,  y cyflwynydd a’r bardd Nei Karadog, yr awduron Bethan Gwanas ac Angharad Tomos, roedd pawb wrthi yn dathlu’r llyfr.  Wrth gwrs, roedd rhai cyfrolau yn dod i’r brig ymhlith darllenwyr fel cyfrol Hanes Cymru gan y diweddar Dr John Davies.  

 

Mae Lleol.Cymru wedi dethol rhai o negeseuon trydar er mwyn i chi gael cip ar chwaeth darllen llawer o bobl Cymru. Mwynhewch y darllen!