Tri eicon yn darganfod eu DNA

03/03/2015

Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden

Mae tri o enwogion Cymru wedi derbyn gwybodaeth newydd am eu cefndir o ganlyniad i brofion DNA hynafiadol fel rhan o'r prosiect arloesol CymruDNAWales.

 

Ar Ddydd Gŵyl Dewi fe ddechreuodd S4C ar daith epig i geisio ateb y cwestiwn 'Pwy ydy'r Cymry?' gyda rhaglen ddogfen fel cyflwyniad i gyfres o bwys cenedlaethol DNA Cymru fydd yn cael ei darlledu yn yr hydref.

 

Fe fydd cyfle arall i fwynhau'r rhaglen DNA Cymru ar S4C nos Fawrth 3 Mawrth am 11.00pm ac mae'r rhaglen ar gael i'w gwylio ar-lein ar alw am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

 

Fe wnaeth Gareth Edwards, Bryn Terfel a Siân Lloyd ddarganfod eu gwreiddiau yn y gorffennol pell drwy gymryd rhan yn y profion DNA.

 

Bydd y gyfres S4C DNA Cymru yn ceisio ateb cwestiynau fel 'Pwy ydy'r Cymry?' ac 'O ble y daethom ni?' drwy ddefnyddio samplau DNA'r Cymry heddiw. Mae'r gyfres yn rhan o brosiect cyffrous sy’n bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales a Trinity Mirror.

Cafodd yr arwr rygbi Gareth Edwards 'syrpreis ei fywyd' ar ôl cael canlyniadau ei brawf DNA hynafiadol. Mae Gareth, sy'n dod o Waun Cae Gurwen, wedi meddwl am ei hun fel Cymro pur erioed ond mae marcwyr genetig ar ochr ei dad yn mynd â'i stori ymhellach o lawer yn ôl ac ymhell o Gymru – i'r Almaen, Denmarc, Sgandinafia a hyd yn oed at y Folga yn nwyrain Ewrop.

 

Oherwydd bod y canlyniad yn gyffredin yng Ngogledd Ewrop erbyn heddiw, mae'r gwyddonwyr sydd ynghlwm â'r project wedi bachu'r term 'Tiwtonig' arno. Mae'n perthyn i grŵp genetig mwy a ddaw o bosib o'r bobl gyntaf fodern i wladychu Ewrop.

 

Celt Pur

 

Felly mae Gareth yn gorfod meddwl eto am y syniad ei fod yn Gelt pur. "Dydw i erioed wedi meddwl amdano fy hun fel unrhyw beth arall ond Cymro," meddai Gareth. "Rwyf wastad wedi bod yn falch o'r peth ac wedi gadael pawb i wybod hynny.

"Mae hyn wedi dod fel sioc i mi, ond mae'n ddiddorol iawn i wybod bod gyda fi linach Sgandinafaidd ar ochr fy nhad. Wedi'r cwbl, dydw i ddim yn dal ac yn benfelyn, mae gwallt tywyll gyda fi - stoc Gymreig gyffredin."

 

Tsar Niclas II

 

Roedd canfod bod ganddi gysylltiadau â Tsar Niclas II o Rwsia a theulu brenhinol Prydain yn 'syrpreis o'r mwyaf' i'r cyflwynydd teledu, Siân Lloyd.

Ochr ei mam sydd wedi dangos marciau genetig sy'n cysylltu Siân â'r Tsar a theulu brenhinol Lloegr. Mae'r hyn sy'n nodi ei gwreiddiau ar ochr ei mam yn anghyffredin iawn yng Nghymru ond yn gyffredin mewn rhannau o'r Eidal ac yn Iran. Mae'r marciau genetig hefyd yn dangos tuedd gref tuag at wallt coch ac mae Siân yn cyfaddef ei bod hi wedi cael ei galw'n 'gochen' yn ei dyddiau ysgol.

 

"Roedd clywed bod gen i gysylltiadau â Tsar Niclas II a brenhinoedd Lloegr yn syrpreis o'r mwyaf. Ond dyw fy ngŵr, Jonathan ddim wedi'i synnu! Mae e'n gwybod na fydda i byth yn codi o'm gwely yn y bore tan fydd e wedi dod â phaned imi," meddai Siân, sy'n wreiddiol o Gastell-nedd.

 

Mae gwyddonwyr sy'n gysylltiedig â'r prosiect CymruDNAWales wedi galw grŵp genetig Siân yn 'Chwilotwyr.' Mae'n grŵp cyffredin yn y Gorllewin Agos ac yn Ne Ewrop gydag is-grwpiau yn dod ymhellach i mewn i Ewrop ar ôl Oes yr Iâ a chyn i amaethyddiaeth fynd ar wasgar.

"Fel rhywun sy'n farus ac yn bwyta mwy na neb, dyw hi ddim yn syndod canfod fy mod i'n 'chwilotwraig,'" meddai Siân.

 

Cysylltiadau yn yr Almaen

 

Dangosodd marciau genetig ar ochr ei dad fod gan Bryn Terfel gysylltiadau ag is-grŵp sydd wedi cael yr enw 'Y Rheindir' gan wyddonwyr yn gweithio ar y prosiect. Mae'r is-grŵp yma yn rhan o grŵp llawer mwy, grŵp a oedd yn debygol o fod yn bresennol yn y bobl fodern gyntaf i gyrraedd Ewrop. Mae is-grŵp Bryn yn gyffredin yn yr Almaen a daethpwyd o'i hyd mewn DNA a gymerwyd o sgerbydau a ffeindiwyd yn Ogof Lichtenstein yn yr Almaen yn 1972. Mae'r is-grŵp hefyd yn bresennol yn Sgandinafia, de'r Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.

 

Canu yn yr Iaith Almaeneg

 

Wrth son am y cysylltiad posib â'r Almaen a'i hoffter o ganu gweithiau Wagner, dywedodd Bryn, "Dwi'n eitha' rhadlon yn canu yn yr iaith Almaeneg."

 

"Mae 'na gysylltiadau gyda'r iaith Gymraeg gan fy mod i wedi deall bod y Celtiaid o ogledd Sbaen wedi mynd drwy Awstria," meddai Bryn. "Mae'n ddiddorol dychmygu bod fy rhagflaenwyr wedi bod yn torri tir newydd, oherwydd dwi bob amser wedi ceisio deall sut mae person o gefndir ffermio wedi cael y ddawn i ganu a pherfformio. Dwi'n ffeindio hynny'n ddiddorol dros ben."

 

Yn y gyfres bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig yn ymestyn nôl tu hwnt i hanes cofnodedig.

 

Nod y prosiect yw cynnal yr arolwg mwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru. Gwneir hyn drwy brawf poer. Bydd y gyfres yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb rhai cwestiynau hanesyddol.

 

Meddai John Geraint, golygydd y gyfres, "Mae hon yn stori epig am daith pobl drwy hanes. Byddwn yn datgelu gwybodaeth am achau genetig eiconau Cymreig go iawn fel Siân, Bryn a Gareth, wrth ddilyn stori ryfeddol y Cymry, pwy ydym ni ac o ble y daethom."

 

Bydd cyfres DNA Cymru yn dilyn yn yr hydref. Am fwy o fanylion am y prosiect Cymru DNA Wales, ewch i safle'r gyfres.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net