'Dylai'r Iaith fod yn hanfodol mewn swyddi'
Categori: Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Daeth dros gant o ymgyrchwyr iaith ynghyd ddydd Sadwrn yng Nghaernarfon i brotestio yn erbyn cymdeithas dai yng Ngwynedd, gyda’r siaradwyr yn unedig yn galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i atal y broses recriwtio tan ei bod yn cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli uchel.
Cafwyd cynrychiolaeth o wahanol fudiadau yn cynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith. Daethant i gefnogi y Cynghorydd Siân Gwenllïan wedi iddi ymddiswyddo o fwrdd rheoli Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ddiweddar o ganlyniad i’r penderfyniad i ollwng gofynion iaith ar swyddi.
Fe ymyrrodd Comisiynydd y Gymraeg yn y mater gan ddweud nad oedd y gymdeithas dai wedi rhoi eglurhad ddigon manwl ynglŷn â'u penderfyniad i beidio â gwneud y Gymraeg yn amod.
Roedd y siaradwyr yn unfryd unfarn, fod gadael i'r datblygiad hwn ddigwydd yn agor y drws i sefydliadau eraill beidio a gwneud y Gymraeg yn amod mewn swyddi sy’n cael ei hysbysebu ar hyd a lled Cymru.
Ymysg y siaradwyr oedd Dr Seimon Brooks ar ran Dyfodol i’r Iaith, yr Aelod Seneddol Hywel Williams, cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a'r ymgyrchydd Ieuan Wyn a’r Cynghorydd Sian Gwenllïan.
Wrth siarad ar ôl y brotest, cymeradwyodd Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, benderfyniad y Cynghorydd Gwenllian.
Meddai, “Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon yn siaradwyr Cymraeg. Mae penderfyniad y sefydliad felly yn warthus. A rhaid i ni ddangos, nid yn unig ein cefnogaeth lwyr i benderfyniad dewr y Cynghorydd Siân Gwenllïan, ond hefyd ein hymroddiad o fynnu bod y Gymraeg yn sgil hanfodol yma yng Ngwynedd mewn swyddi fel hyn."
Agor y drws
Ychwanegodd Menna Machraeth, “Os caniateir i hyn ddigwydd, bydd yn tanseilio ymdrechion i gryfhau'r iaith, nid yn unig yn yr ardal hon ond llefydd eraill yn ein gwlad sy'n edrych i ni am arweiniad. Mae'r Gymraeg yn sgil hanfodol nid yn unig yma yng Ngwynedd ond ar draws Cymru, ac mae'n hen bryd i bob un sefydliad, boed hynny'n awdurdod lleol neu yn gymdeithas tai ddechrau sylweddoli, a gweithredu ar hynny.”
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net